Coch dan adain

rhywogaeth o adar
Coch dan adain
Turdus iliacus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Turdidae
Genws: Turdus[*]
Rhywogaeth: Turdus iliacus
Enw deuenwol
Turdus iliacus







Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Coch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus iliacus; yr enw Saesneg arno yw Redwing. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu yn Yr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.

Mae'n nythu trwy rannau gogleddol Ewrop ac Asia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Nyth Coch Dan-aden.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint a Bronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'r Socan Eira.

Teulu golygu

Mae'r coch dan adain yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brych daear Abysinia Geokichla piaggiae
 
Brych daear Crossley Geokichla crossleyi
 
Brych daear Molwcaidd Geokichla dumasi
Brych daear Siberia Geokichla sibirica
 
Brych daear cefnllwyd Geokichla schistacea
 
Geokichla cinerea Geokichla cinerea
 
Geokichla dohertyi Geokichla dohertyi
 
Geokichla erythronota Geokichla erythronota
 
Geokichla interpres Geokichla interpres
 
Mwyalch Adeinlwyd Turdus boulboul
 
Mwyalchen Turdus merula
 
Mwyalchen y mynydd Turdus torquatus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Coch dan adain gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.