Bronfraith
Bronfraith | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus |
Rhywogaeth: | T. philomelos |
Enw deuenwol | |
Turdus philomelos Brehm, 1831 |
Mae'r fronfraith (hefyd bronfraith y grug, bronfraith fach; Lladin Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.
Nid yw'r fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.
Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a brych y coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na brych y coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae brych y coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.
Rhai rhywogaethau yn nheulu'r Turdidae
golyguRhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bronfraith | Turdus philomelos | |
Bronfraith Mongolia | Turdus mupinensis | |
Brych Grand Cayman | Turdus ravidus | |
Brych gyddfddu | Turdus atrogularis | |
Brych gyddfgoch | Turdus ruficollis | |
Brych tywyll America | Turdus nigrescens | |
Brych y coed | Turdus viscivorus | |
Coch dan adain | Turdus iliacus | |
Mwyalchen | Turdus merula | |
Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | |
Socan eira | Turdus pilaris |
Llenyddiaeth
golyguCymraeg
golyguHonna rhai[1] mai cerdd am frych y coed Turdus viscivorus ac nid y fronfraith Turdus philomelos roedd goddrych cerdd [Dafydd ap Gwilym] am dan y teitl Y Ceiliog Fronfraith:
Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul[2] i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed[3]
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.”
Un peth sydd o blaid ceiliog bronfraith fel goddrych y gerdd ydi’r gair “llwyn”. Mae brych y coed yn canu fel hyn[4] o’r coed uchaf fel arfer. Mae’r hen enw gwerinol S. ‘stormcock’ yn addas iawn I gyfleu hyn.
Dolenni allanol
golygu- Cân y Fronfraith Archifwyd 2009-02-25 yn y Peiriant Wayback