Culfor Bering (Rwseg: Берингов пролив, Saesneg: Bering Strait) yw'r culfor rhwng Penrhyn Dezhnev yn Rwsia, y rhan fwyaf dwyreiniol o gyfandir Asia, a Cape Prince of Wales yn Alaska, rhan fwyaf gorllewinol cyfandir Gogledd America.

Culfor Bering
Mathculfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVitus Bering Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
SirAlaska Edit this on Wikidata
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau66°N 169°W Edit this on Wikidata
Map
Siart forwrol o Gulfor Bering

Mae'r culfor, sydd tua 92 km (58 milltir) o led a 30 – 50 m o ddyfnder, yn cysylltu Môr Chukchi (rhan o Gefnfor Iwerydd) gyda Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel. Enwyd y culfor ar ôl y fforiwr Vitus Bering, Daniad yng ngwasanaeth Rwsia, a groesodd y culfor yn 1728, er y gwyddir i Semyon Dezhnev hwylio trwy'r culfor yn 1648.

Yn ystod Oes yr Ia roedd tir yn cysylltu dwy ochr Culfor Bering, a thros y tir yma y croesodd pobl gynnar o gyfandir Asia i gyfandir America. Gwyntyllwyd y syniad o bont neu dwnel yn cysylltu dwy ochr y culfor, ond ar hyn o bryd bychan yw'r boblogaeth ar y ddwy ochr, ac nid oes ffyrdd yn cysylltu'r sefydliadau ar lannau'r culfor a gweddill y wlad ar yr ochr Rwsaidd nag ochr Alaska. Mae gwahaniaeth amser o 21 awr rhwng y ddwy ochr, gyda'r ochr Rwsaidd ddiwrnod ar y blaen i'r ochr Americanaidd.