Mae Dyffryn Ewias yn ddyffryn yn rhan ddwyreiniol y Mynydd Du, sy'n cynnwys Afon Honddu, afon sy'n llifo i mewn i Afon Mynwy. Mae rhan uchaf y dyffryn yn gorwedd ym Mhowys a'r rhan isaf yn Sir Fynwy.

Dyffryn Ewias
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.941°N 3.035°W Edit this on Wikidata
Map
Dyffryn Ewias

Mae'r dyffryn yn estyn o Fwlch yr Efengyl yn y gogledd i Lanfihangel Crucornau yn y de. Saif yna Llanddewi Nant Hodni â'i hen briordy, a Chapel-y-ffin.

Mae gyda'r dyffryn ochrau llethrog, gyda chribau mynyddog ar y deutu. Mae'r grib tu ddwyrain i'r dyffryn yn ffurfio'r ffin â Lloegr, ac mae rhan o Lwybr Clawdd Offa yn ei dilyn.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.