Llanddewi Nant Hodni

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Crucornau, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddewi Nant Hodni[1][2] neu Llanddewi Nant Honddu, weithiau Llanhonddu neu Llanhodni (Saesneg: Llanthony; weithiau Llantoni). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, tua 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll. Saif ar lan Afon Honddu, hanner ffordd i fyny cwm anghysbell Dyffryn Ewias, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r tirlun o gwmpas yn drawiadol am ei unigrwydd.

Llanddewi Nant Hodni
Llanddewi Nant Hodni o'r bryniau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCrucornau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9428°N 3.0375°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO287276 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auCatherine Fookes (Llafur)
Map

Mae enw'r pentref yn cadw'r hen ffurf ar y gair "Honddu", sef "Hodni".

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]

Yn ymyl y pentref ceir adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, a sefydlwyd gan yr arglwydd Normanaidd William de Lacy, arglwydd Ewias Lacy, ar droad yr 12g. Ond cyn hynny roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. 'Llanantoni', a droes yn 'Llantoni' dros y blynyddoedd, oedd enw'r sefydliad Awstinaidd newydd, sy'n rhoi i'r pentref ei enw Saesneg heddiw (Llanthony).

 
Priordy Llanddewi Nant Hodni

Tua 1890 cofnodir bod dros hanner trigolion y pentref yn siarad Cymraeg.[5]

Gweler hefyd

golygu
  • Llanddewi, am leoedd eraill o'r enw "Llanddewi"

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Wales and her language gan John E. Southall Amazon