Glenda Jackson

actores a aned yn 1936

Actores a gwleidydd Seisnig oedd Glenda May Jackson, CBE (9 Mai 193615 Mehefin 2023).[1] Enillodd ddwy Wobr Academi am yr Actores Orau. Roedd hi'n aelod seneddol Hampstead a Highgate rhwng 1992 a 2010.

Glenda Jackson
LlaisGlenda jackson bbc radio4 film programme 06 07 2007 b007rmcx.flac Edit this on Wikidata
GanwydGlenda May Jackson Edit this on Wikidata
9 Mai 1936 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 2023 Edit this on Wikidata
Blackheath Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PlantDan Hodges Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play, Drama League Award, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni ym Mhenbedw, yn ferch adeiladwr. Cafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg leol. Bu'n gweithio yn Boots am ddwy flynedd.[2] Priododd Roy Hodges ym 1958; fe wnaethant ysgaru ym 1976. Bu iddynt fab, y newyddiadurwr Dan Hodges.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Elisabeth I, brenhines Lloegr, yn y gyfres BBC Elizabeth R (1971). Ennillodd y Wobr BAFTA Teledu am y rôl 'na; ennillodd y BAFTA Ffilm am ei rôl yn Sunday Bloody Sunday (1971). Chwaraeodd rôl Elisabeth eto yn y ffilm Mary Queen of Scots (1971). Roedd hi hefyd yn enwog am ymddangos fel gwestai seren yn y Morecambe and Wise Show.[3][4] Ar y llwyfan, chwaraeodd rannau fel Hedda Gabler a Cleopatra. Ennillodd Wobr Tony am ei hymddangosiad yn Three Tall Women gan Edward Albee (2018).

Roedd hi'n aelod o'r Blaid Lafur. Cafodd ei hethol i'r senedd ym 1992 ac addawodd roi'r gorau i actio. Ar ôl marwolaeth Margaret Thatcher, gwnaeth un o'i areithiau pwysicaf yn y Senedd San Steffan.[5]

Ar ôl ymddeol o'r Senedd yn 2015 dychwelodd i actio. Perfformiodd y brif rhan yn y ffilm deledu Elizabeth is Missing am fenyw yn ei 80au yn byw gyda dementia. Am y rhan yma, enillodd wobr yr Actores Orau BAFTA yn 2019 ac Emmy yn 2020.

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl
1963 This Sporting Life Cantores heb ei achredu
1967 Marat/Sade Charlotte Corday
1968 Tell Me Lies
1968 Negatives Vivien
1969 Women in Love Gudrun Brangwen Gwobr Academi
1971 The Music Lovers Antonina Miliukova
1971 Sunday Bloody Sunday Alex Greville
1971 The Boy Friend Rita Monroe
1971 Mary, Queen of Scots Elisabeth I, brenhines Lloegr
1972 The Triple Echo Alice
1973 Bequest to the Nation Emma Hamilton AKA The Nelson Affair
1973 A Touch of Class Vickie Allessio Gwobr Academi
1973 The Devil Is a Woman Sister Geraldine
1975 The Maids Solange
1975 The mantic Englishwoman Elizabeth Fielding
1975 Hedda Hedda Gabler
1976 The Incredible Sarah Sarah Bernhardt
1977 Nasty Habits Sister Alexandra
1978 House Calls Ann Atkinson
1978 Stevie Stevie Smith
1978 The Class of Miss MacMichael Conor MacMichael
1979 Lost and Found Patricia Brittenham
1980 Health Isabella Garnell
1980 Hopscotch Isobel von Schonenberg
1982 The Return of the Soldier Margaret Grey
1982 Giro City Sophie
1985 Turtle Diary Neaera Duncan
1987 Beyond Therapy Charlotte
1988 Business as Usual Babs Flynn
1988 Salome's Last Dance Herodias / Lady Alice
1989 The Rainbow Anna Brangwen
1989 Doombeach Miss
1990 King of the Wind Caroline o Ansbach

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rôl
1957–61 ITV Play of the Week Iris Jones / Aelod o'r rheithgor 2 pennod
1963 Z-Cars Hospital Nurse / WPC Fernley 2 pennod
1965–68 Wednesday Play, TheThe Wednesday Play Cathy / Julie 2 pennod
1967 Half Hour Story Claire Foley Pennod: "Which of These Two Ladies Is He Married To?"
1969 ITV Sunday Night Theatre Marina Palek Pennod: "Salve Regina"
1970 Play of the Month Margaret Schlegel Pennod: "Howards End"
1971 Elizabeth R Elisabeth I, brenhines Lloegr 6 pennod; Gwobr Emmy
1971–74 The Morecambe & Wise Show Herself 4 pennod
1979 Christmas With Eric & Ernie
1980 The Muppet Show Pennod: "Glenda Jackson"
1980 The Morecambe & Wise Show
1981 The Patricia Neal Story Patricia Neal Ffilm teledu
1984 Sakharov Yelena Bonner (Sakharova) Ffilm teledu
1988 American Playhouse Nina Leeds Pennod: "Strange Interlude"
1990 Carol & Company Dr. Doris Kruber Pennod: "Kruber Alert"
1990 T.Bag's Christmas Ding Dong Vanity Bag
1991 A Murder of Quality Ailsa Brimley
1991 The House of Bernarda Alba Bernarda Alba
1992 The Secret Life of Arnold Bax Harriet Cohen
2019 Elizabeth is Missing Maud Gwobr BAFTA

Cyfeiriadau golygu

  1. "Glenda Jackson: Oscar-winning actress and former MP dies at 87". BBC News (yn Saesneg). 2023-06-15. Cyrchwyd 2023-06-15.
  2. Jennifer Uglow, et al. The Macmillan Dictionary of Women's Biography. London: Macmillan, 1999, p. 276 (Saesneg)
  3. "BBC Two – The Morecambe and Wise Show, Christmas Show 1971" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2022.
  4. "Eric Morecambe jokes and one-liners". The Daily Telegraph (yn Saesneg). 1 Hydref 2015. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2022.
  5. Magnay, Jacquelin (12 Ebrill 2013). "Labour MP Glenda Jackson shatters the love during parliament tributes". The Australian (yn Saesneg). Llundain. Cyrchwyd 18 Ebrill 2020.