Gwareiddiad y Maya

Mae Gwareiddiad y Maya yn cyfeirio at gyfnod gwâr a llewyrchus yn hanes y Maya, sef pobl sy'n byw yn Ne Mecsico, Gwatemala, Belîs a rhan ogleddol Canolbarth America. Seilid eu diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae pyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua 200-1200) ymhlith celfyddyd orau'r cyfandir a chredir eu bont yn flaengar iawn yn eu pensaerniaeth, mathemateg, calendr a'u system seryddol. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffig yr Hen Aifft.

El Castillo yn Chichen Itza
Manylun Gwarddrws 26 o Yaxchilan

Gelwir y cyfnod cyn 2000 CC yn hanes y Maya yn Gyfnod Hynafol, pan welwyd datblygiadau mewn amaethyddiaeth a'r pentrefi cynharaf. Yn ystod y Cyfnod Cyn-glasurol, sef c. 2000 CC -250 ÔC) gwelwyd cymdeithasu ehangach, cymhlethach yn ardaloedd y Maya, gyda thyfu a chynaeafu cnydau fel india-corn, ffa, y llysieuyn sgwash a phupur tsili. Tua 750 CC gwelwyd 'dinasoedd' cynharaf y Maya, ac erbyn 500 CC roedd strwythur carreg sylweddol iawn i'w hadeiladau a'u ffyrdd, temlau anferthol a thalwynebau cain. Erbyn y 3g CC defnyddid ysgrifen hieroglyffig. Tua diwedd y cyfnod hwn gwelwyd nifer o ddinasoedd yn y Basn Petén a thyfodd Kaminaljuyu i fod yn rym sylweddol yn Ucheldir Gwatemala. Mae'r Cyfnod Clasurol yn cychwyn tua'r flwyddyn 250, ac mae'r dyddiad hwn wedi'i seilio ar ddyddio meini carreg anferthol, a godwyd i gyfrifo amser, ac a elwir 'Y Calendr Hir-dymor Meso-Americanaidd'. Rhwng y dinasoedd, gwelwyd hefyd rwydwaith o gysylltiadau masnach. Yn Iseldiroedd y Maya, daeth y dinasoedd Tikal a Calakmul yn bwerus iawn a daeth y ddinas Teotihuacán yn allweddol yng ngwleidyddiaeth y 'wlad'.

Erbyn y 9g dechreuodd gwleidyddiaeth canol yr ardal ddatgymalu, a bu rhyfel cartref rhwng y bobl, gadawodd llawer ohonynt y dinasoedd, gan ymfudo i'r Gogledd. Ond yn y Cyfnod Ôl-glasurol, cynyddodd y Chichen Itza yn eu grym, a thyfodd brenhiniaeth y K'iche' yn Ucheldir Gwatemala.

Dechrau'r diwedd i'r Gwareiddiad oedd coloneiddio (neu drefedigaethu) Ymerodraeth Sbaen yng ngwlad y Maya, a dymchwelwyd Nojpetén, y ddinas olaf, yn 1697.

Cyfeiriadau golygu