Awdures a newyddiadurwr Almaenig oedd Irmtraud Morgner (22 Awst 1933 - 6 Mai 1990) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur gweithiau "realaeth lledrithiol" (Saesneg: magical realism; Almaeneg: Magischer Realismus). Roedd yn lladmerydd dros hawliau merched o fewn Dwyrain yr Almaen.

Irmtraud Morgner
Ganwyd22 Awst 1933 Edit this on Wikidata
Chemnitz Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1990 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cymdeithas Awduron yr Almaen Edit this on Wikidata
MudiadRealaeth Sosialaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Gwobr Heinrich Mann, Gwobr Roswitha, Gwobr Lenyddol Kassel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.irmtraud-morgner.de Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Chemnitz, Sachsen, yr Almaen a bu farw yn Berlin o ganser.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth golygu

Roedd ei thad yn beiriannydd ar reilffyrdd yr Almaen.

Cymerodd Irmtraud ei Abitur yn 1952, cyn astudio Germanistik (astudiaethau Almaenaidd) a llenyddiaeth yn Leipzig hyd at 1956. Yna, gweithiodd i'r cylchgrawn neue deutsche literatur (Llenyddiaeth Almaenig Newydd), hyd at 1958, cyn cychwyn gweithio fel awdur llawrydd.

Priodas gyntaf Morgner oedd gyda Joachim Schreck, a ddaeth yn ddiweddarach yn olygydd gyda'r Aufbau-Verlag a chawsant fab yn 1967. Ysgarodd Morgner a Schreck yn 1970. Priododd eto ym 1972, â Paul Wiens, cyd-fardd ac awdur. Roedd Paul Wiens, fel miloedd o bobl yn Nwyrain yr Almaen, yn 'weithiwr answyddogol' o'r Stasi ac fe'i gyflogwyd i brepian am ei wraig ei hun wrth yr awdurdodau, drwy gydol eu priodas. Ysgarodd y ddau yn 1977. [7]

 
Carreg fedd Irmtraud Morgner

Gwaith golygu

  • Das Signal steht auf Fahrt. Berlin, 1959
  • Ein Haus am Rand der Stadt. Berlin, 1962
  • Hochzeit in Konstantinopel. Berlin, 1968
  • Gauklerlegende. Berlin, 1970
  • Die wundersamen Reisen Gustavs des Weltfahrers. Berlin, 1972
  • Leben und Abenteuer der Trobadora Beatriz nach Zeugnissen ihrer Spielfrau Laura. Berlin, 1974
  • Geschlechtertausch (gyda Sarah Kirsch und Christa Wolf). Darmstadt, 1980
  • Amanda. Ein Hexenroman (Amanda. A Witch's Tale). Berlin, 1983
  • Die Hexe im Landhaus (gyda Erica Pedretti). Zürich, 1984
  • Der Schöne und das Biest. Leipzig, 1991
  • Rumba auf einen Herbst. Hamburg, 1992
  • Das heroische Testament. München, 1998
  • Erzählungen. Berlin, 2006

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Awduron yr Almaen, Gwobr am Lyfr Almaeneg Newydd am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen (1977), Gwobr Heinrich Mann (1975), Gwobr Roswitha (1985), Gwobr Lenyddol Kassel (1989)[8] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119168581. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_255. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839. dyddiad cyrchiad: 5 Ebrill 2019.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119168581. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Irmtraud Morgner". "Irmtraud Morgner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  7. Anrhydeddau: http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015.
  8. http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015.