Pórtico da Gloria

Porth Romanésg Cadeirlan Santiago de Compostela ydy'r Pórtico da Gloria, sydd wedi'i leoli yng Ngalisia, un o wledydd ymreolaethol Sbaen. Fe'i comisiynwyd gan Fernando II, brenin Castilla a León, a'i gynllunio gan Maestro Mateo a'i weithdy rhwng 1168 a 1188.

Pórtico da Gloria
Mathportico Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadEglwys Gadeiriol Santiago de Compostela Edit this on Wikidata
SirSantiago de Compostela Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau42.880555°N 8.545138°W Edit this on Wikidata
Map
Pórtico da Gloria o'r llawr
Pantocrátor, neu "Dduw Hollalluog", sef Crist

Mae'r cyfeiriad at y porth hwn i'w gael mewn dogfen a arwyddwyd gan Fernando II ar 23 Chwefror 1168, ble mae'n rhoi cyflog oes i Mateo o ddau ddarn o arian y flwyddyn am godi basilica Sant Iago – ac mae'r ddogfen i'w chael heddiw yn amgueddfa'r gadeirlan. Ymgorfforwyd claddgell i gynnal y porth; roedd hyn hefyd yn pontio'r lloriau anwastad rhwng y llawr a phrif sgwâr yr eglwys, sef y Plaza del Obradoiro.

Ar 1 Ebrill 1188 y codwyd y garreg gyntaf, a gorffennwyd y gwaith yn 1211 pan gysgegrwyd y deml ym mhresenoldeb y brenin Alfonso IX.

Symudwyd rhai o'r cerfluniau i ffasâd y gadeirlan yn y 18g a gwelir rhai ohonynt heddiw yn yr amgueddfa. Yn ychwanegol at hyn, nid ôl llaw y Maestro Mateo yn unig sydd yma, yn wir credir fod o leiaf pedwar cerflunydd wedi ymwneud â'r gwaith.

Y paentiadau golygu

Yn nhraddodiad gorau yr arddull Romanésg, gorchuddiwyd y gwaith yn wreiddiol gan beintiadau cywrain: mewn du, gwyn, coch, glas ac aur.[1] Ceir cofnodion sy'n dangos i'r paentiadau hyn gael eu goreuro a'u gwella yn y 15fed a'r 16g ac yna gan Crispin Evelino yn 1651.[1] Derbyniodd Evalino 130 ducat am ei waith y flwyddyn honno.

Yn 1866 comisiynodd Amgueddfa De Kensington yn Llundain (rhagflaenydd Amgueddfa Victoria ac Albert) yr Eidalwr Domenico Brucciani i wneud copi plastr o'r Porth a chredir i hyn ddileu nifer o luniau (neu peintiadau) cywrain a gwerthfawr. Credir hefyd fod y lleithder yn yr aer hefyd yn rhannol gyfrifol am ddifetha'r lluniau.[2] Yn 2006 dechreuwyd ar y gwaith o'u hadfer.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu