Santiago de Compostela
Santiago de Compostela (Sain Siâm yn y Gymraeg) yw prifddinas cymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen. Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Santiago yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Roedd y boblogaeth yn 92,919 yn 2005.
Math | bwrdeistref Galisia |
---|---|
Prifddinas | Santiago de Compostela city |
Poblogaeth | 98,687 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Goretti Sanmartín Rei |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Assisi, São Paulo, Cali, Coimbra, Santiago do Cacém, Mashhad, Buenos Aires, Qom, Santiago de Querétaro, Santiago de los Caballeros, Las Piedras, Pisa, Santiago de Cuba, Uviéu, Qufu, Le Puy-en-Velay, Cáceres, Córdoba, Santiago de Veraguas |
Nawddsant | Iago fab Sebedeus |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | intermunicipal commonwealth of the Santiago de Compostela area, Q107553254 |
Sir | Talaith A Coruña |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 220.01 km² |
Uwch y môr | 260 metr |
Yn ffinio gyda | Oroso, O Pino, Boqueixón, Vedra, Teo, A Coruña, Ames, Val do Dubra, Trazo |
Cyfesurynnau | 42.88°N 8.53°W |
Cod post | 15700 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Santiago de Compostela |
Pennaeth y Llywodraeth | Goretti Sanmartín Rei |
Mae Santiago wedi bod yn gyrchfan bwysig i bererinion ers y Canol Oesoedd; ystyrir mai hi yw'r gyrchfan bwysicaf ar ôl Jerusalem a Rhufain. Yn ôl y traddodiad, dygwyd corff Sant Iago yma yn wyrthiol wedi iddo gael ei ferthyru yn Jerusalem yn 44 OC.. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am Brifysgol Santiago de Compostela, sydd wedi ei sefydlu ers mwy na 500 mlynedd, ac am Eglwys Gadeiriol Sant Iago.
Mae llwybr y Camino de Santiago yn arwain yno ar draws gogledd Sbaen, ac mae miloedd yn ei ddilyn bob blwyddyn.
Canwyd cywydd am fordaeth i 'Galys' (sef Galisia yn y Gymraeg) gan Ruffudd Grug yn y 1340au, sy'n sôn am y ddinas: 'Torraist â Sain Siâm amod, Tud y glad, nid da dy glod.'[1]
Gefeilldrefi
golygu- ↑ The Oxford Book of Welsh Verse. Oxford: Clarendon Press. 1962. tt. 94.