Nofelydd, awdur straeon byrion, dramodydd, a newyddiadurwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Roberto Arlt (2 Ebrill 190026 Gorffennaf 1942).[1] Roedd yn ffigur pwysig yn llên yr Ariannin yn ystod hanner cyntaf yr 20g, ac yn nodedig am ei gyfraniad at nofel yr absẃrd.

Roberto Arlt
GanwydRoberto Emilio Godofredo Arlt Edit this on Wikidata
26 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1942 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMad Toy, The seven madmen Edit this on Wikidata
Arddulltheatr Edit this on Wikidata
PlantMirta Arlt Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Roberto Godofredo Christophersen Arlt yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, yn fab i Almaenwr ac Eidales. Almaeneg oedd iaith yr aelwyd.[2] Er yr oedd yn ddarllenwr awchus, cafodd Roberto ei ddiarddel o'r ysgol yn wyth oed. Teimlodd yn estron yng nghymdeithas yr Ariannin, a threuliodd ei amser naill ai'n darllen nofelau Rwsiaidd a gwledydd eraill neu yn nhafarnau a chaffis Buenos Aires yng nghwmni cymeriadau tlodaidd ac amheus yr olwg, y fath o gymeriadau sy'n poblogi ei ffuglen. Cyhoeddodd ei stori gyntaf yn 14 oed, yn Revista Popular. Gadawodd ei gartref yn 16 oed i weithio mân swyddi gyda'r nod o gychwyn ar yrfa lenyddol. Yn ystod ei arddegau, dechreuodd gyhoeddi ei newyddiaduraeth er mwyn ennill digon o arian ac enw iddo'i hun i ymuno â'r cylchoedd llenyddol. Gwasanaethodd yn y lluoedd arfog yn Córdoba yn 1919–20, a mynychodd Ysgol Fecaneg y Llynges.[3]

Newyddiaduraeth golygu

Cafodd ei gynghori o 1925 i 1927 gan Ricardo Güiraldes a chyhoeddodd erthyglau yng nghylchgrawn Güiraldes, Prow. Ysgrifennodd golofn ddyddiol yn y papur newydd El mundo dan y pennawd "Aguafuertes porteñas" am 14 mlynedd, o 1928 tan ei farwolaeth. Bu El Mundo yn gwerthu dwywaith y nifer o gopïau ar y diwrnod a gyhoeddwyd ei golofn nac ar ddiwrnodau eraill yr wythnos. Ysgrifau portread o drigolion Buenos Aires (porteñas) ydynt sy'n disgrifio pobl a bywyd y ddinas mewn arddull eironig a phicarésg. ac ysgrifau eironig ydynt o drigolion a bywydBuenos Aires. Wedi ei farwolaeth, cawsant eu casglu a'u cyhoeddi ar ffurf llyfrau, Aguafuertes porteñas (1950) a Nuevas aguafuertes porteñas (1960).

Arlt y nofelydd golygu

 
Arlt (chwith) gyda'r beirdd Francisco Luis Bernárdez a Roberto Ledesma yn 1930.

Ysgrifennodd Arlt pum nofel, y cyntaf a'r ail ohonynt El diario de un morfinómano (1920) a El juguete rabioso (1926). Awyrgylch grotésg sydd gan ei straeon, yn llawn cymeriadau gofidus a gwallgof sy'n gwrthryfela yn erbyn cymdeithas, ac yn aml gyda phortreadau o fyd y butain a'r isddiwylliant troseddol. Gwelir ysbrydoliaeth gryf gan Dostoiefsci yn ei nofelau arbrofol a mynegiadol, Los siete locos (1929) a'r dilyniant Los lanzallamas (1931). Ei nofel olaf oedd El amor brujo (1931).

Arlt y dramodydd golygu

 
Arlt yn Buenos Aires yn 1935.

Trodd Arlt ei sylw at y theatr yn y 1930au, a chyhoeddodd ddeg o ddramâu yn ystod ei oes. Y goreuon ydy Trescientos millones (1932), a berfformiwyd yn gyntaf yn y Teatro del Pueblo yn Buenos Aires yn 1932, a Saverio el cruel (1936), nas perfformiwyd tan 1956.

Ei gyfnod yn Sbaen golygu

Aeth Arlt i Sbaen yn 1935 fel gohebydd El Mundo, ac ysgrifennodd gyfres o erthyglau am argraff y wlad arno. Cyhoeddwyd y rheiny ar ffurf llyfr, Aguafuertes españolas, yn 1936.

Bu farw yn Buenos Aires yn 42 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Roberto Arlt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.
  2. "Roberto Arlt" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.
  3. "Arlt, Roberto" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Nira Etchenique, Roberto Arlt (Buenos Aires: LaMandrágora, 1962).
  • Jack M. Flint, The Prose Works of Roberto Arlt; A Thematic Approach (Durham: University of Durham, 1985).
  • Paul Gray, "Metatheatre: Roberto Arlt's Vehicle Toward the Public's Awareness of an Art Form", Latin American Theatre Review (1990).
  • Aden Hayes, Roberto Arlt, la estrategia de su ficción (1981).
  • Gerardo Mario Goloboff, Genio y figura de Roberto Arlt (1988).
  • José Morales Saravia, Barbara Schuchard, a Wolfgang Matzat, Roberto Arlt: Una modernidad argentina (Madrid: Iberoamericana, 2001).
  • James J. Troiano, "The Grotesque Tradition and the Interplay of Fantasy and Reality in the Plays of Roberto Arlt" Latin American Literary Review (1976).