Roy Welensky

gwleidydd o Ogledd Rhodesia

Gwleidydd ac undebwr llafur o Ogledd Rhodesia oedd Syr Roy Welensky (20 Ionawr 19075 Rhagfyr 1991) a wasanaethodd yn Ddirprwy Brif Weinidog (1953–56) ac yn Brif Weinidog (1956–63) Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa.

Roy Welensky
Ganwyd20 Ionawr 1907 Edit this on Wikidata
Harare Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Blandford Forum Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, De Rhodesia, Northern Rhodesia, Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr trên, undebwr llafur, paffiwr, gwleidydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Sambia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • National Railways of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Federal Party, Northern Rhodesian Labour Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganed Roland Welensky yn Salisbury yn neheubarth Rhodesia (bellach Harare, Simbabwe), pan oedd y diriogaeth honno dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Roedd ei dad yn Iddew o Lithwania, a'i fam yn Affricaner o Dde Affrica. Bu'n baffiwr proffesiynol yn ei ieuenctid, ac enillodd bencampwriaeth pwysau trwm De a Gogledd Rhodesia yn 1925–27.[1]

Dechreuodd Welensky weithio i'r rheilffyrdd yn 1924 a bu'n aelod gweithgar o Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd. Fe'i etholwyd i gyngor cenedlaethol yr undeb a gwasanaethodd yn gadeirydd yr undeb o 1953 i 1963. Fe'i etholwyd yn aelod o Gyngor Deddfwriaethol Gogledd Rhodesia yn 1938, a fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyngor Gweithredol yn 1946. Sefydlodd Welensky Blaid Lafur Gogledd Rhodesia yn 1941. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1953.[1]

Yn 1953, sefydlwyd Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, a ffurfiodd Welensky a Syr Godfrey Huggins y Blaid Ffederal. Gwasanaethodd Welensky yn ddirprwy dan y Prif Weinidog Huggins o 1953 i 1956, ac yn brif weinidog o 1956 i 1963. Daeth y ffederasiwn i ben yn 1963, ac ymgyrchodd Welensky yn etholiad De Rhodesia yn 1964, ond methiant fu ei ymdrechion.[1]

Cafodd un mab ac un ferch gyda'i wraig gyntaf Elizabeth, a fu farw yn 1970. Priododd â'i ail wraig, Valerie, yn 1972, a chawsant ddwy ferch. Symudodd Welensky i Loegr yn 1981, a bu farw yn Blandford Forum, Dorset, yn 84 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sir Roy Welensky. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Chwefror 2020.
  2. (Saesneg) "Sir Roy Welensky, 84, Premier of African Federation, Is Dead", The New York Times (7 Rhagfyr 1991). Adalwyd ar 29 Chwefror 2020.