Thomas Richards (Tasmania)

newyddiadurwr a llenor yn Awstralia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:57, 6 Mawrth 2024 gan Bydbach (sgwrs | cyfraniadau)

Roedd Thomas Richards (180018 Gorffennaf, 1877) yn feddyg Cymreig a ymfudodd i Awstralia lle fu yn un o sylfaenwyr newyddiaduraeth yn y wlad.[1]

Thomas Richards
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata
Hobart Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, meddyg, ysgrifennwr, golygydd Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Richards yn Nolgellau yn blentyn i Thomas Richards, cyfreithiwr ac Elizabeth ei wraig. Nid oes cofnod o union ddyddiad ei eni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys St Mair, Dolgellau ar 10 Gorffennaf 1800.[2]

Teulu

Priododd Hannah Elsemere, née Adams ar 26 Tachwedd 1828 yn St Pancras, Llundain;[3] cawsant fab a thair merch.

Gyrfa

Cafodd Richards ei addysgu yn Christ's Hospital, Llundain rhwng 1809 a 1815. Bu wedyn yn brentis i feddyg ac yn mynychu clinigau yn Ysbyty St Bartholomew. Graddiodd gyda Thrwydded Cymdeithas yr Apothecariaid ym 1823. Am y naw mlynedd gyntaf wedi iddo dderbyn ei drwydded bu'n gweithio fel meddyg yn Llundain. Bu hefyd yn cyfrannu yn achlysurol i'r cylchgronau llenyddol The Monthly Magazine a'r British Register.[4]

Ym 1832 cafodd Richards swydd fel meddyg llong ar long oedd yn teithio i Awstralia. Aeth ei wraig a'i blentyn gydag ef ar y daith gan fod y teulu am sefydlu yn Awstralia ar ddiwedd y daith. Cyrhaeddodd tref Hobart ym mis Hydref 1832. Sefydlodd meddygfa yn Elizabeth Town, Tasmania.

Ychydig wedi iddo gyrraedd Tasmania sefydlodd Henry Melville (awdur y llyfr Moby Dick) y cylchgrawn Hobart Town Magazine. Bu Richards yn olygydd a chyfrannwr rheolaidd i'r cylchgrawn yn ystod ei oes fer rhwng Mawrth 1833 ac 1834.

Parhaodd i fod yn feddyg hyd 1836, er ei fod wedi bod yn gweithio fel clerc i Adran Syrfëwr Tref Hobart rhwng 1834 a 1837. Rhwng 1837 a 1847 bu'n gweithio fel prif ohebydd y papur The Colonial Times. Wedi ymweliad a Phrydain rhwng 1847 a 1848 dychwelodd i Tasmania gan weithio eto fel meddyg am gyfnod. Yn hwyrach yn ei oes aeth yn ôl i newyddiadura fel gohebydd a phrawf ddarllenydd i'r Hobart Mercury, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth.[4]

Am ei gyfraniad hir i newyddiaduraeth ar yr ynys mae Richards yn cael ei adnabod fel tad gwasg Tasmania.[5]

Llenor

 
Clawr Rob the Red Hand

Roedd Richards yn feirniad drama gyntaf Awstralia ac yn arloeswr y stori fer.[6]

Cyhoeddwyd y rhan helaethaf o waith llenyddol adnabyddadwy Richards yn y Hobart Town Magazine. Roedd o leiaf hanner ei gynnwys yn gerddi, traethodau, adolygiadau, brasluniau a straeon byrion ganddo ef. Mae'n anodd gwneud rhestr gyflawn o'i weithiau lenyddol gan ei fod yn aml yn ysgrifennu o dan ffugenwau, er mwyn cuddio faint o gynnwys y papurau oedd wedi dod o'i ysgrifbin ef. Roedd 'Mervinius', 'Edward Trevor Anwyl' a 'Peregrine' ymysg yr enwau byddai'n defnyddio.[7] Roedd cefndir Cymreig i fwyafrif o'i straeon byrion ac wedi gosod ym Meirionnydd ei blentyndod.[8]

Yn 2017 casglodd a golygodd Rita Singer nifer o'i straeon Cymreig am y tro cyntaf a'u cyhoeddi fel Rob the Red-Hand and Other Stories of Welsh Society and Scenery. [9]

Marwolaeth

Bu farw yn Portsea Place, Hobart yn 77 mlwydd oed.[10]

Cyfeiriadau

  1. "RICHARDS, THOMAS (1800 - 1877), llenor Awstralaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-11.
  2. Cofrestrau Bedydd 1800 Eglwys St Mair Dolgellau, yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gwynedd; Dolgellau; Cyfeirnod: ZM/5835
  3. Cofrestr Priodasau Parish Chapel, St Pancras, Camden, yng ngofal London Metropolitan Archives; Llundain; Cyfeirnod: p90/pan1/064
  4. 4.0 4.1 Horner, J. C., "Richards, Thomas (1800–1877)", Australian Dictionary of Biography (National Centre of Biography, Australian National University), http://adb.anu.edu.au/biography/richards-thomas-4472, adalwyd 2019-11-11
  5. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion ar gyfer 1988; Parch Patric Haldane-Stevenson THE WELSH IN AUSTRALIA.
  6. "Tasmanian Creativity". www.utas.edu.au. Cyrchwyd 2019-11-11.
  7. Singer, Rita. "Thomas Richards (1800-1877): A Bibliography in Progress – bydbach" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-26.
  8. Jenkins, Bethan (2018-03-17). "Books | Rob the Red-Hand by Thomas Richards". Wales Arts Review. Cyrchwyd 2019-11-11.
  9. Richards, Thomas (2017). Singer, Rita (gol.). Rob the Red-Hand : and other Stories of Welsh Society and Scenery. Aberystwyth: Celtic Studies Publications. ISBN 9781891271274. OCLC 1059221513.
  10. Australia, Death Index, 1787-1985, Hobart Tasmania, 1877 rhif 604