Archangel
Yn y Traddodiad Abrahamaidd, un o ddosbarth arbennig o angylion sy'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw yn y Nefoedd ac yn gweithredu fel negesydd Iddo weithiau yw archangel. Ffurfia'r archangylion y trydydd o'r corau o amgylch gorsedd Duw. Mewn Cristnogaeth, fe'u darlunir yn gyffredinol fel bodau asgellog o ymddangosiad dynol, gan amlaf yn gwisgo arfwisg. Mae'r archangylion yn rhan o draddodiad Iddewiaeth ac Islam hefyd.
Math | angel, angels in Christianity, angel in Islam |
---|---|
Y gwrthwyneb | archdemon |
Rhan o | hierarchy of angels |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am y ddinas yn Rwsia gweler Arkhangelsk (neu Archangel).
Y saith archangel
golyguCeir saith archangel yn y traddodiad Cristnogol (cyfeiria Ioan at "y saith angel" sy'n sefyll o flaen Duw). Cyfeirir at bedwar ohonynt yn y Beibl, a dyma'r rhai mwyaf cyfarwydd o lawer:
Yn ogystal ceir tri arall nas enwir yn y Beibl. Yr enwau mwyaf cyffredin arnynt yw:
Mae rhai traddodiadau yn sôn am archangylion eraill hefyd.
Islam
golyguYn Islam, yr archangylion pwysicaf yw Mihangel neu Mikail (archangel cymhorthwy), Gabriel neu Jibril (archangel datguddiad; daeth â'r Coran at Fohamed), ac Angel Angau- a enwir gan amlaf yn Azra-eel neu 'Malak al-Maut' (Angel Angau), Israfel neu Israfil (yr archangel a fydd yn canu'r gorn ar Ddydd Brawd), Maalik (Ceidwad Uffern), Munkar a Nakir (angylion a fydd yn cwestiynu eneidiau'r meirw am eu buchedd) a Radwan (Ceidwad y Nef). Ceir dau angel arall hefyd - y Kiraaman-Katibeen - y cyfeirir atynt yn y Coran.