Teitl brenhinol yw Archddug Awstria (Almaeneg: Erzherzog zu Österreich, Lladin: Archidux Austriae) neu Archdduges Awstria (Almaeneg: Erzherzogin von Österreich). Yn 1358–59, hawliodd Rudolf IV, Dug Awstria, y teitl Archddug Palatin (Pfalz-Erzherzog) drwy ffugio'r ddogfen Privilegium Maius, mewn ymgais i ddyrchafu statws i ddugiaid Awstria a oedd cystal ag etholwyr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig.[1] Er i'r Ymerawdwr Siarl IV wrthod cydnabod y teitl, fe'i hawliwyd gan Ernst, Dug Awstria a'i etifeddion yn hanner cyntaf y 15g. Yn 1453, mabwysiadodd Ffredrig III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig y teitl Archddug Awstria fel pennaeth Tŷ Hapsbwrg, ac o hynny ymlaen, ac eithrio'r ysbaid 1742–45 yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, bu pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig hefyd yn dwyn teitl yr Archddug. Daeth Archddugiaeth Awstria i ben yn sgil diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn 1806. Cyn hynny, yn 1804, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis II, yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig olaf, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Parhaodd Archddug Awstria yn rhan o deitl llawn swyddogol arweinwyr Awstria nes 1918, er nad oedd yr archddugiaeth ei hun yn bodoli bellach.

Archddug Awstria
Enghraifft o'r canlynolswydd hanesyddol, teitl bonheddig Edit this on Wikidata
MathArchddug, pennaeth y wladwriaeth Edit this on Wikidata
OlynyddYmerawdwr Awstria Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Archddugiaeth Awstria Edit this on Wikidata
Darluniad o goron Archddug Awstria.

Yn ogystal â theitl Archddug Awstria, a gafodd ei gynnwys yn rhan o deitl llawn swyddogol ymerodron Awstria, bu pob un o feibion Tŷ Hapsbwrg yn dwyn y teitl archddug o flaen ei enw bedydd, er enghraifft yr Archddug Franz Ferdinand, a merched a gwragedd yn dwyn y teitl archdduges.[1]

Rhestr golygu

Archddugiaeth Awstria (1453–1806) golygu

Ymerodraeth Awstria (1804–1918) golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Archduke. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ebrill 2020.