Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ffransis (12 Chwefror 1768 – 2 Mawrth 1835) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig olaf (Ffransis II; 1792–1806), Ymerawdwr cyntaf Awstria (Ffransis I; 1804–35), Brenin Hwngari (1792–1830), Brenin Bohemia (1792–1835), ac Archddug Awstria (1792–1835).
Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1768 Fflorens |
Bu farw | 2 Mawrth 1835 Fienna |
Galwedigaeth | pennaeth y wladwriaeth |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Ymerawdwr Awstria |
Priod | Duges Elisabeth o Württemberg, Maria Theresa o Napoli a Sisili, Maria Ludovika o Austria-Este, Caroline Augusta o Bafaria |
Plant | Ferdinand I, Joseph Franz o Awstria, Johann Nepomuk o Awstria, Archdduchol Ludovika Elisabeth o Awstria, Archdduchol Marie Caroline o Awstria, Archdduges Caroline Ludovika o Awstria, Archdduges Amalie Theresa o Awstria, Archdduges Maria Anna o Awstria |
Llinach | Tŷ Hapsbwrg-Lorraine |
Gwobr/au | Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd y Gardas, Urdd yr Eliffant, Order of Saint Januarius, Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Leopold, Order of the Iron Crown, Order of Saint Ferdinand and of Merit, Uwch Groes Sash y Tair Urdd |
llofnod |
Ganed yn Fflorens yn fab i Leopold, Uchel Ddug Tysgani, a fu ddiweddarach yn Leopold II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a'i wraig Maria Luisa. Cafodd ei addysg wleidyddol oddi wrth ei ewythr, Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.[1]
Ym 1804, pan oedd Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc ar fin diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Am ddwy flynedd, cyn diwedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806, roedd Ffransis yn Doppelkaiser ("ymerawdwr dwbl").
Bu farw Ffransis yn Fienna yn 67 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Francis II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd: Leopold II |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1792 – 1806 |
Olynydd: – |