Israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Archeaidd (neu Archaean) sy'n un o eonau'r Cyn-Gambriaidd. Ceir 4 eon, gyda phob un yn ymestyn am ysbaid o dros 500 miliwn o flynyddoedd. Digwyddodd yr Archeaidd rhwng 4,000 a 2,500 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) h.y. 4 - 2.5 biliwn CP, yn dilyn yr eon Hadean a gan ragflaenu'r Proterosöig.

Archeaidd
Enghraifft o'r canlynoleon, eonothem Edit this on Wikidata
Rhan oCyn-Gambriaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS Edit this on Wikidata
Dechreuwydc. Mileniwm 4032. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benc. Mileniwm 2501. CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHadeaidd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganProterosöig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEoarchean, Paleoarchean, Mesoarchean, Neoarchean Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ystod yr Archeaidd, roedd crwst y Ddaear, a'i haenau o greigiau gwahanol, newydd eu ffurfio, a olygai fod tymheredd y Ddaear ychydig yn is nag yn yr Hadean. Golygai hyn y gallai cyfandiroedd gael eu ffurfio.[1] Er nad yw gwyddonwyr yn gwbwl sicr, credir erbyn hyn i fywyd syml: un gell efallai gael ei ffurfio tua diwedd yr Hadean neu efallai ar gychwyn yr Archaean.

Cyn-Gambriaidd  
Hadeaidd Archeaidd Proterosöig Ffanerosöig

Geirdarddiad

golygu

Daw'r gair Archeaidd o'r Hen Roeg Αρχή (Arkhē), sef "cychwyn, tarddiad". Fe'i bathwyd yn 1872, gan olygu "o'r cyfnod cynharaf (yn ddaearegol)." Y rheswm am hyn yw fod yr Hadean a'r Archaean yn un yr adeg honno.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "International Chronostratigraphic Chart v.2013/01" (PDF). International Commission on Stratigraphy. Ionawr 2013. Cyrchwyd 6 Ebrill 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)