Iudaea

(Ailgyfeiriad o Judaea)

Talaith Rufeinig yn ardal Judea, Palesteina o'r wlad sy' nawr yn Israel oedd Iudaea (Hebraeg: יהודה, Groeg: Ιουδαία; Lladin: Iudaea). Enwyd y dalaith ar ôl Teyrnas Jwda.

Iudaea
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJwdea Edit this on Wikidata
PrifddinasCaesarea Maritima Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCoponius Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRoman Palestine Edit this on Wikidata
LleoliadTiroedd Israel Edit this on Wikidata
Siryr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Lefant Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaÆgyptus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.5°N 34.9°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegoly cynfyd clasurol Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCoponius Edit this on Wikidata
Map
Talaith Iudaea yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal yn 63 CC, pan fu'r cadfridog Pompeius Magnus yn ymgyrchu yno. Diorseddwyd y brenin Judah Aristobulus II, a gwnaed ei frawd Ioan Hyrcanus II yn frenin dan awdurdod Rhufain.

Am gyfnod bu Judea yn deyrnas dan benarglwyddiaeth Rhufain; o 40 CC hyd 4 CC roedd yn rhan o deyrnas Herod Fawr. Yn dilyn ei farwolaeth ef, rhannwyd ei deyrnas, gyda rheolwr pob rhan yn dwyn y teitl tertrarch ("rheolwr dros bedwaredd ran"). Tetrach Judea oedd mab Herod Fawr, Herod Archelaus, ond yn 6 OC diorseddwyd ef gan yr ymerawdwr Augustus yn dilyn apêl iddo gan ddeiliaid Herod.

Cyfunwyd Judea gyda Samaria ac Idumea i greu talaith Rufeinig Iudaea. Bu nifer o wrthryfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid, yn cynnwys y Gwrthryfel Iddewig Mawr (66-70), Rhyfel Kitos (115-117) a gwrthryfel Simon bar Kochba (132-135). Wedi gwrthryfel Bar Kochba, newidiodd yr ymerawdwr Hadrian enw'r dalaith i Syria Palaestina ac enw Jeriwsalem i Aelia Capitolina.

Roedd y dalaith yn un o'r ychydig daleithiau Rhufeinig oedd yn cael ei llywodraethu gan Rufeiniwr o radd ecwestraidd, un radd gymdeithasol yn is na'r llywodraethwyr o radd seneddol yn y taleithiau eraill. Un o'r llywodraethwyr oedd Pontius Pilat, o 26 hyd 36.

Rhwng 41 a 44, roedd Iudaea yn deyrnas dan Herod Agrippa. Wedi ei farwolaeth ef, bu dan reolaeth uniongyrchol Rhufain am gyfnod, cyn ei rhoi i fab Herod Agrippa, Marcus Julius Agrippa, yn 48. Pan fu ef farw tua 100, daeth yn dalaith unwaith eto.

Talaith Iudaea yn y 1g
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia