Ardal Drefol Caerdydd
Caerdydd a Phenarth
Ardal Drefol Caerdydd (neu Caerdydd Fwyaf) yw'r enw a roddir ar yr ardal drefol o amgylch awdurdod unedol Caerdydd ac sydd hefyd yn cynnwys Penarth a Dinas Powys. Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth yr ardal drefol hon yn 447,487[1]. Cysylltir y ddinas ei hun a'r ardal allanol yma (Pennarth a Dinas Powys) gan ardal Bae Caerdydd.[2] Poblogaeth awdurdod unedol Caerdydd oddeutu yn y cyfrifiad diwethaf oedd 447,487[1].[3] Amcangyfrifodd Cyngor Caerdydd fod poblogaeth yr awdurdod unedol yn 317,500 yn 2006; yng nghyfrifiad 2011 roedd yn 346,090.
Israniadau
golyguYn ôl diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd gan Ardal Drefol Caerdydd yr israniadau a ganlyn:
Safle | Is-ardal drefol | Poblogaeth | |
---|---|---|---|
cyfrifiad 2001 | cyfrifiad 2011 | ||
1 | Caerdydd | 292,150 | 335,145 |
2 | Caerffili | 41,402 | |
3 | Pontypridd | 30,457 | |
4 | Penarth | 23,245 | 27,226 |
5 | Dinas Powys | 7,653 | 7,490 |
6 | Ffynnon Taf | 5,567 | |
Radur | 4,658 | ||
Cyfanswm | 327,206 | 447,287 |
Nodiadau:
- Cafodd Radur ei gynnwys yn isadran Caerdydd yng nghyfrifiad 2011.
- Roedd Pontypridd, Caerffili a Ffynnon Taf yn ardaloedd trefol ar wahân yng nghyfrifiad 2001.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
- ↑ "2011 Census - Built-up areas". ONS. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2013.
- ↑ Area: Cardiff (Local Authority) Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback, Office of National Statistics.