Ardal Ryedale
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Ryedale (Saesneg: Ryedale District).
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Prifddinas | Malton |
Poblogaeth | 54,920 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,506.5937 km² |
Cyfesurynnau | 54.139°N 0.79°W |
Cod SYG | E07000167 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Ryedale District Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,507 km², gyda 55,380 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough i’r dwyrain, y Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i’r de-ddwyrain, Dinas Efrog i’r de-orllewin, ac Ardal Hambleton i’r gorllewin.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd plwyfi Clifton Allanol, Earswick, Haxby, Heworth Allanol, Holtby, Huntington, Earswick Newydd, Osbaldwick, Skelton, Stockton-on-the-Forest, Strensall, Towthorpe a Wiggington i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.[2]
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Malton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Helmsley, Kirkbymoorside, Norton-on-Derwent, a Pickering. Mae rhannau o’r ardal ym Mro Pickering a’r Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.
Mae enw yr ardal yn dod o ddyffryn Afon Rye, yng ngorllewin y Gweunydd Gogledd Swydd Efrog. Gair sy’n golygu "dyffryn" yng Ngogledd Lloegr yw dale, felly mae Ryedale yn golygu "Cwm Rye".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 5 Hydref 2020
- ↑ The North Yorkshire (District of York) (Structural and Boundary Changes) Order 1995 (Saesneg); adalwyd 6 Hydref 2020