Dinas Efrog

awdurdod unedol yng Ngogledd Swydd Efrog

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Dinas Efrog (Saesneg: City of York). Mae'r awdurdod unedol yn cynnwys dinas gadeiriol Efrog a phentrefi cyfagos.

Dinas Efrog
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal gyda statws dinas, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Poblogaeth209,893 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Siroedd seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd271.937 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.96396°N 1.09142°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000014 Edit this on Wikidata
GB-YOR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of City of York Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 272 km², gyda 210,618 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Ardaloedd Hambleton a Ryedale i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, Ardal Selby i'r de, a Bwrdeistref Harrogate i'r gorllewin.

Awdurdol unedol Dinas Efrog yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr awdurdod unedol ar 1 Ebrill 1996. Roedd yn gyfuniad o ddinas Efrog, a oedd yn ardal an-fetropolitan yn sir Gogledd Swydd Efrog, yn ogystal â phlwyfi o Fwrdeistref Harrogate ac Ardaloedd Ryedale a Selby. Ar y dyddiad hwnnw peidiodd dinas Efrog â bod yn rhan o sir an-fetropolitan Gogledd Swydd Efrog.[2]

Cyfeiriadau

golygu