Ardal Hambleton

ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog

Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Hambleton (Saesneg: Hambleton District).

Ardal Hambleton
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd Swydd Efrog
PrifddinasNorthallerton Edit this on Wikidata
Poblogaeth91,134 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,311.2282 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.334°N 1.429°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000164 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Hambleton District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,311 km², gyda 91,594 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough ac Ardal Ryedale i’r dwyrain, Dinas Efrog i’r de, Bwrdeistref Harrogate i’r de-orllewin, Richmondshire i’r gorllewin, a Bwrdeistrefi Stockton-on-Tees, Middlesbrough, a Redcar a Cleveland i’r gogledd.

Ardal Hambleton yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Northallerton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bedale, Easingwold, Stokesley a Thirsk. Mae tua 75% o’r ardal ym Mroydd Mowbray ac Efrog, a 16% ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.

Mae enw yr ardal yn dod o’r Bryniau Hambleton, rhan o’r Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog, sy i’r dwyrain o’r ardal.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 5 Hydref 2020