Ardal tirol a morol o dan warchodaeth

Mae tua 30% o dir a dŵr Cymru wedi cael ei ddewis fel safle arbennig (neu ardaloedd sy'n cael eu gwarchod yng Nghymru) ‒ naill ai oherwydd ei fywyd gwyllt, neu ei olygfeydd hardd neu ei werth fel safle daearegol.

Ardal tirol a morol o dan warchodaeth
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Traeth Llanddwyn. Rheolir y Warchodfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corf sy'n gyfrifol am ddynodi'r safleoedd natur hyn yn ardaloedd dan warchodaeth. Ceir ardaloedd gwledig a'r moroedd sydd a statws arbennig fel safleoedd gwarchodedig oherwydd eu pwysigrwydd naturiol neu ddiwylliannol.

Mae cyfyngiadau'n bodoli ar weithgareddau a datblygiadau a allai effeithio ar ardal ddynodedig neu warchodedig e.e. adeiladu tai neu ffyrdd newydd. Gall y rhain gynnwys ardaloedd wrth ymyl y safleoedd hyn hefyd.

Mathau golygu

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig golygu

Dyma'r safleoedd pwysicaf ar gyfer treftadaeth naturiol Cymru. Maen nhw'n warchodedig iawn er mwyn diogelu amrediad, ansawdd ac amrywiaeth y cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearyddol ym mhob rhan o Gymru. Y nhw yw conglfeini'r gwaith cadwraeth a wneir, sef gwarchod craidd ein treftadaeth naturiol.

Safleoedd sy'n cael eu gwarchod gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol golygu

Mae'r rhain yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig golygu

Mae'r rhain yn cynnwys ardaloedd o'r môr, gwely'r môr neu'r lan sydd wedi'u gwarchod o dan gyfreithiau eraill megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Parthau Cadwraeth Morol a Safleoedd Ramsar.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru golygu

Dyma enghreifftiau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol o'r radd flaenaf. Gweinyddir Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru gan Gyfoeth NAturiol Cymru, sydd hefyd a'r hawl i ddynodi safleoedd newydd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae 71 ohonynt yng Nghymru. Mae eu maint yn amrywio'n fawr; y lleiaf yw Dan-yr-Ogof, sy'n 0.52ha, a'r mwyaf yw'r Berwyn, sy'n 7,920ha. Mae 58% ohonynt yn llai na 100ha.

Y safle gyntaf i'w dynodi'n Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru oedd Cwm Idwal, yn 1954.

Parciau Cenedlaethol golygu

Ardaloedd mawr a ddynodwyd yn ôl y gyfraith i ddiogelu rhinweddau arbennig eu tirweddau ac i hyrwyddo hamdden awyr agored. Mae gan Barciau Cenedlaethol eu Hawdurdodau eu hunain, sy'n rheoli cynllunio

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol golygu

Mae'r rhain wedi eu diogelu o dan y gyfraith oherwydd rhinweddau arbennig eu tirweddau, eu bywyd gwyllt, eu daeareg a'u daearyddiaeth. Maen nhw'n cael eu gwarchod fwy nag ardaloedd eraill o dan y broses gynllunio, ac maen nhw'n hafal i Barciau Cenedlaethol o ran tirwedd a golygfeydd.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:

Arfordiroedd Treftadaeth golygu

Darnau o forlin eithriadol, heb eu difetha, yw'r rhain, sydd fel arfer o dan ofal awdurdodau lleol. Maen nhw'n rhoi cyfrif am dros hanner morlin Cymru.

Cyfeiriadau golygu