Ardha Candrasana (Hanner Lleuad)

asana eistedd a chordeddu mewn ioga hatha

Math o asana tro yn ioga hatha yw Ardha Matsyendrasana, sy'n fersiwn o Matsyendrasana. Mae gan yr asama yma dzair fersiwn ei hun, a elwir yn Ardha Matsyendrasana l i lll.[1] Ei enw Cymraeg yw Hanner Arglwydd y pysgod. Asana tro yw'r math yma, ac mae'n un o'r deuddeg asana a restri o fewn ioga Hatha.[2][3]

Ardha Candrasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd, ioga Hatha, asanas ymlaciol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r asana yn ganoloesol, ac fe'i disgrifir yn y 15g yn yr Ioga Haṭha Pradīpikā 1.26-7, sy'n nodi ei fod yn dinistrio llawer o afiechydon, ac eilwaith yn y 17g mewn testun o'r enw Gheraṇḍa Saṃhitā 2.22-23.[4]

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit परिपूर्ण Paripurna, sef wedi'i berffeithio; मत्स्येन्द् Matsyendra, un o sylfaenwyr hatha yoga, y mae ei enw yn ei dro'n golygu "Arglwydd y pysgod"; ac आसन asana, osgo neu safle'r corff; Ystyr अर्ध ardha yw hanner.[5] अर्ध ardha means half.[2][3][6][7]

Amrywiadau golygu

Mae gan Ardha Matsyendrasana II un goes yn syth allan ar y llawr, a'r llall wedi plygu fel ar gyfer Padmasana; mae'r llaw ar ochr y goes wedi'i phlygu yn gafael y tu allan i'r goes estynedig, ac mae'r llaw arall yn cyrraedd rownd y cefn i afael yng nghroth y goes sydd wedi plygu.[8][8][8]

Mae Ardha Matsyendrasana III yn dilyn Ardha Matsyendrasana I. Mae'r goes waelod yn symud i mewn i Padmasana, ac mae'r breichiau'n plethu drwy'i gilydd trwy afael yn y ddwy droed.[8]

Ar gyfer yr amrywiad lledorwedd, Supta Matsyendrasana, gan ddechrau o wastad y cefn, dylid ymestyn y breichiau ar led, ar lefel ysgwydd, plygu un pen-glin a'i gylchdroi (a'r cluniau) ar draws, ac i'r ochr arall.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Half Spinal Twist - Ardha-Matsyendrasana". Hatha Yoga. Advaita Yoga Ashrama. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2013. Cyrchwyd 6 Mai 2013.
  2. 2.0 2.1 "Half Lord of the Fishes Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 9 April 2011.
  3. 3.0 3.1 "Yoga poses, Ardha Matsyendrasana, Half Spinal Twist". Cyrchwyd 9 April 2011.
  4. Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. t. 109. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
  5. Long, Ray (2011). Yoga Mat Companion 3: Anatomy for Backbends and Twists. Greenleaf. t. 162. ISBN 978-1-60743-944-8.
  6. Iyengar 1979, t. 273.
  7. Maehle, Gregor; Gauci, Monica (November 2009). Ashtanga Yoga - The Intermediate Series: Mythology, Anatomy, and Practice. New World Library. t. 43. ISBN 978-1-57731-669-5.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 Iyengar 1979, tt. 259–262, 270-273.
  9. "Supine Spinal Twist | Supta Matsyendrasana". Yoga Basics. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.