Asanas ymlaciol

grwp o asanas oddi fewn i ioga

Osgo neu asana myfyriol tra'n eistedd yw myfyrdod ymlaciol. Fel arfer, mae'r person sy'n myfyrio yn eistedd ond weithiau mae'n sefyll neu'n lled-orwedd. Ceir y safleoedd hyn o fewn y traddodiadau Bŵdhaidd a Hindŵaidd, yr enwocaf mae'n debyg yw'r safle (neu'r asana) a elwir yn lotws; mae'r asana penlinio hefyd yn eitha ymlaciol a phoblogaidd a cheir opsiynau eraill gan gynnwys eistedd ar gadair, gyda'r asgwrn cefn yn unionsyth.

Asanas ymlaciol
Asana myfyrdod hynafol: Siddhasana
Mathmyfyrdod, ioga Edit this on Wikidata

Weithiau caiff y Myfyrdod ei ymarfer tra'n cerdded, megis kinhin, gwneud tasgau ailadroddus syml, fel yn Zen SAMU, neu waith sy'n annog ymwybyddiaeth ofalgar.

Asanas Ioga Swtras golygu

 
Mae'r osgo Padmasana neu Lotus ymhlith y deuddeg asana myfyrdod a enwir yn sylwebaeth Bhasyacyd-fynd â Swtrâu Ioga Patanjali.

Mae Swtrâu Ioga Patanjali yn disgrifio ioga fel un sydd ag wyth cangen, ac un o'r wyth hyn yw'r asana, y sedd fyfyrio. Nid yw'r swtras yn enwi unrhyw asanas, dim ond nodi nodweddion asana da, gan ddweud:[1]

स्थिरसुखमासनम् ॥४६॥
sthira sukham āsanam
Dylai ei safle, eich osgo myfyrio fod yn gyfforddus ac yn un y gellir ei ddal am gyfnod hir. Yoga Sutras 2:46

Mae'r Swtras wedi'u hymgorffori yn sylwebaeth Bhasya, ac mae ysgolheigion bellach yn credu fod y cyfan wedi'u sgwennu gan yr un awdur;[2] mae'n enwi 12 asana myfyrdod tra'n eistedd, pob un o bosibl yn draws-goesau, gan gynnwys Padmasana, Virasana, Bhadrasana (a elwir bellach yn Baddha Konasana), a Svastikasana.[3]

Eistedd ar y llawr golygu

 
Clustog myfyrdod zafu, a ddefnyddir yn aml mewn ymarfer Bŵdhaidd

Mae safleoedd eistedd, yn cynnwys croesi'r coesau ac yn darparu sylfaen sefydlog ar gyfer myfyrdod, ac fe'u defnyddir at y diben hwn mewn Bŵdhaeth a Hindŵaeth ers canrifoedd lawer. Ymhlith y rhain mae Padmasana (lotws llawn), Ardha Padmasana (hanner lotws), Siddhasana neu Muktasana (a elwir hefyd yn osgo Burma, sef eistedd gyda'r pengliniau ar y ddaear a'r traed yn agos at y corff),[4][5] a Sukhasana (unrhyw safle traws-goes hawdd).[6] Posibiliadau eraill yw'r ystumiau penlinio Virasana (yn eistedd rhwng y sodlau) a Vajrasana neu Seiza (yn eistedd ar y sodlau).[7] Mae asanas eistedd eraillll, Baddha Konasana (Y Crydd), yn addas ar gyfer pobl sy'n gallu eistedd gyda'r traed gyda'i gilydd a'r ddwy ben-glin ar y ddaear; noda BKS Iyengar y dylid dal cledrau'r dwylo mewn gweddi dros y frest i fyfyrio yn y sefyllfa hon, sy'n gofyn am rywfaint o gydbwysedd.

Gall safle'r lotws fod yn hynod anghyfforddus i Orllewinwyr nad ydyn nhw wedi ymarfer eistedd gan groesi'r coesau ers plentyndod cynnar. Efallai eu bod, yng ngeiriau'r athro ioga a myfyrdod Anne Cushman, yn ymarfer "hunan-artaith... mae'n debyg eu bod yn credu bod cleisio'ch morddwyd fewnol â'ch ffêr yn hanfodol i ddeffroad ysbrydol."[7] Gall yr asana achosi poen pen-glin i ddechreuwyr.[8][9] Mae'r safle Baddha Konasana yn llai poenus.[10]

Ystumiau eraill golygu

 
Naddiad carreg yn Sukhothai, Gwlad Thai sy'n darlunio mynachod yn ystod myfyrdod cerdded.

Mewn amrywiol draddodiadau mae pobl yn myfyrio mewn safleoedd eraill. Gall pobl sy'n ei chael hi'n anghyffyrddus eistedd gan groesi'r coesau eistedd yn unionsyth ar gadair gefn syth, troed-wastad a heb gefnogaeth gefn, gyda'r dwylo'n gorffwys ar y cluniau, yn yr hyn a elwir weithiau'n safle'r Aifft.[6]

Rhai asanas

Rhestr Wicidata:

rhif enw isddosbarth o'r canlynol delwedd Cat Comin
Ardha Matsyendrasana (Hanner Arlgwydd y Pysgod) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
 
Ardha Matsyendrasana
Baddha Konasana (Y Teiliwr) asanas eistedd
asanas ymlaciol
 
Baddha Konasana
Bhagaritasana asanas sefyll
asanas ymlaciol
 
Dandasana (Y Ffon) asanas eistedd
asanas ymlaciol
 
Daṇḍāsana
Gorakshasana asanas eistedd
asanas ymlaciol
Gorakṣāsana
Guptāsana (Y Gyfrinach) Siddhasana
asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Muktasana Siddhasana
asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Mulabandhasana asanas eistedd
asanas ymlaciol
 
Mulabandhasana
Padmasana (Lotws) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
 
Padmāsana
Simhasana (Y Llew) asanas penlinio
ioga Hatha
asanas ymlaciol
 
Simhāsana
Svastikasana (Yr Addawol) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Patanjali. Yoga Sutras. t. Book 2:46.
  2. Maas, Philipp A. (2006). Samādhipāda. Das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert [Samādhipāda | The First Chapter of the Pātañjalayogaśāstra for the First Time Critically Edited] (yn Almaeneg). Aachen: Shaker.
  3. Āraṇya, Hariharānanda (1983). Yoga Philosophy of Patanjali. State University of New York Press. t. 228 and footnotes. ISBN 978-0873957281.
  4. Reninger, Elizabeth (2015). Meditation Now: A Beginner's Guide: 10-Minute Meditations to Restore Calm and Joy Anytime, Anywhere. Callisto Media. ISBN 978-1623154981.
  5. Powers, Sarah (2020). Insight Yoga: An Innovative Synthesis of Traditional Yoga, Meditation, and Eastern Approaches to Healing and Well-Being. Shambhala Publications. ISBN 978-0834822429.
  6. 6.0 6.1 Ginsburg, Seymour B. (2005). Gurdjieff Unveiled: An Overview and Introduction to Gurdjieff's Teaching. Lighthouse Editions. t. 59. ISBN 978-1-904998-01-3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Ginsburg 2005" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  7. 7.0 7.1 Cushman, Anne (2014). Moving into Meditation. Shambhala. tt. 116–126. ISBN 978-1-61180-098-2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Cushman 2014" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  8. Acott, Ted S.; Cramer, Holger; Krucoff, Carol; Dobos, Gustav (2013). "Adverse Events Associated with Yoga: A Systematic Review of Published Case Reports and Case Series". PLOS ONE 8 (10): e75515. doi:10.1371/journal.pone.0075515. ISSN 1932-6203. PMC 3797727. PMID 24146758. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3797727.
  9. Penman, Stephen; Stevens, Philip; Cohen, Marc; Jackson, Sue (2012). "Yoga in Australia: Results of a national survey". International Journal of Yoga 5 (2): 92–101. doi:10.4103/0973-6131.98217. ISSN 0973-6131. PMC 3410203. PMID 22869991. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3410203.
  10. Cole, Roger (5 Chwefror 2019) [2007]. "How to Protect the Knees in Lotus and Related Postures". Yoga Journal.