Asanas eistedd
Osgo neu asana tra'n eistedd yw asana eistedd, sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn India a mannau eraill i fyfyrio ac yn y Gorllewin i gadw'n heini ac fel rhan o symudiadau ioga. Mae asanas eistedd ioga'n cynnwys ystumiau lle cedwir y coesau'n syth neu wedi'u plethu, eu plygu ymlaen neu eu troelli. Mae'r mathau hyn o ystumiau yn briodol ar gyfer ymarferwyr ioga a myfyrdod ar bob lefel gan ddefnyddio propiau yn ôl yr angen i hyrwyddo aliniad diogel. Mae'r mwyafrif o ystumiau eistedd ioga'n addas ar gyfer myfyrwyr ioga sy'n ddechreuwyr.
Hanumanasana | |
Math | asana |
---|
Mae ystumiau eistedd yn ddelfrydol ar gyfer gwella hyblygrwydd trwy ymestyn y coesau (llinyn y gar, quads a'r ffer), y cefn, a'r cyhyrau o amgylch y clun. Gall eistedd ar y llawr ddarparu sefydlogrwydd, sy'n hwyluso agor y coesau a'r breichiau, ond nid yw'n gyffyrddus i bawb. Mae codi'r cluniau yn aml yn helpu'r asgwrn cefn i ddod i aliniad mwy cynaliadwy.
Mewn ioga clasurol ceir 5 grwp neu fath o asana eistedd:
- Sukhasana - asana cyfforddus (plethu'r coesau)
- Siddhasana - asana'r arbenigwr
- Vajrasana - asana eistedd ar sodlau
- Ardha Padmasana - hanner lotws
- Padmasana - Lotws
Asanas Ioga Swtras
golyguMae Swtrâu Ioga Patanjali yn disgrifio ioga fel un sydd ag wyth cangen, ac un o'r wyth hyn yw'r asana. Un grwp o fewn yr asanas yw asanas eistedd a cheir hefyd asanas sefyll, asanas ymlacio (a myfyrio). Nid yw'r swtras yn enwi unrhyw asanas, ond maent yn nodi nodweddion asana da, gan ddweud:[1]
स्थिरसुखमासनम् ॥४६॥
sthira sukham āsanam
Dylai ei safle, eich osgo myfyrio fod yn gyfforddus ac yn un y gellir ei ddal am gyfnod hir. Yoga Sutras 2:46
Mae'r Swtras wedi'u hymgorffori yn sylwebaeth Bhasya, ac mae ysgolheigion bellach yn credu fod y cyfan wedi'u sgwennu gan yr un awdur;[2] mae'n enwi 12 asana myfyrdod tra'n eistedd, pob un o bosibl yn plethu'r coesau, gan gynnwys Padmasana, Virasana, Bhadrasana (a elwir bellach yn Baddha Konasana), a Svastikasana.[3]
Ioga hatha
golyguYmhlith y gwahanol fathau o ioga sy'n cynnwys ymarfer myfyrdod, rheoli anadl neu pranayama, ac ati, ioga hatha yw'r un sy'n cyfeirio at ymarfer corfforol yr asanas. Mae'r asanas hyn yn canolbwyntio ar adfywio ynni chakras neu'r sianeli ynni. Rhennir asanas ioga Hatha ymhellach i wahanol fathau yn dibynnu ar safle'r corff. Mae'r rhain yn cynnwys ystumiau lle mae'r person yn eistedd, sefyll, cydbwyso neu droelli'r corff. O'r holl asanas hyn, disgrifir posau yoga fel y rhai mwyaf cyson a chyffyrddus.
- Rhai asanas eistedd
Rhestr Wicidata:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Patanjali. Yoga Sutras. t. Book 2:46.
- ↑ Maas, Philipp A. (2006). Samādhipāda. Das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert [Samādhipāda | The First Chapter of the Pātañjalayogaśāstra for the First Time Critically Edited] (yn Almaeneg). Aachen: Shaker.
- ↑ Āraṇya, Hariharānanda (1983). Yoga Philosophy of Patanjali. State University of New York Press. t. 228 and footnotes. ISBN 978-0873957281.