Arf niwclear
Arf niwclear yw dyfais ffrwydrol sy'n defnyddio adwaith niwclar, un ai ymholltiad niwclar neu gyfuniad o ymholltiad niwclar ac ymasiad niwclar. Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni o faint cymharol fychan o fater. Gall arf niwclear fod yn daflegryn, bom, siel neu ffrwydryn tir. Ceir tri math gwahanol o ddyfais niwclear: dyfais atomig, dyfais hydrogen a dyfais niwtron.
Math o gyfrwng | dyfais ffrwydrol, nuclear technology, weapon functional class |
---|---|
Math | Arf dinistr torfol, nuclear explosive |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dim ond dau arf niwclar sydd wedi eu defnyddio mewn rhyfel erioed, gan yr Unol Daleithiau - a hynny tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ar 6 Awst 1945, gollyngwyd bom atomig ar ddinas Hiroshima yn Japan, a thridiau'n ddiweddarch, gollyngwyd un arall ar ddinas Nagasaki. Rhwng y ddau, lladdwyd tua 120,000 yn y tymor byr, gyda mwy yn marw yn y tymor hir o effeithiau ymbelydredd, cansar gan fwyaf.
Ers hynny, mae dros dwy fil o arfau niwclar wedi eu ffrwydro mewn profion. Y gwledydd y gwyddir i sicrwydd fod ganddynt arfau niwclar yw'r Unol Daleithiau, Rwsia, Tsieina, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, India, Pacistan a Gogledd Corea. Credir fod gan Israel arfau niwclar, ond nid yw llywodraeth Israel wedi cadarnhau hyn. Ar hyn o bryd,cyhuddir Iran gan yr Unol Daleithiau o fod yn y broses o ddatblygu arfau niwclar, ond gwedir hyn gan lywodraeth Iran.
Mae arfau niwclear diweddar yn cynnwys y daflegryn Cruise. Arweiniodd cynlluniau UDA i osod Cruise ar safleoedd ym Mhrydain a'r Almaen at argyfwng gwleidyddol ar ddechrau'r 1980au. Cynhalid llu o brotestiadau mawr dros heddwch, er enghraifft yn Greenham Common yn ne Lloegr a ger Mur Berlin yn yr Almaen.