Peter Goldsmith, Barwn Goldsmith

(Ailgyfeiriad o Arglwydd Goldsmith)

Peter Henry Goldsmith, Baron Goldsmith, CC, QC, sy'n fwy adnabyddus dan ei deitl Yr Arglwydd Goldsmith (ganed 5 Ionawr 1950), yw cyn Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru. Mae'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol o 11 Mehefin 2001 hyd 27 Mehefin 2007, pan ymddeolodd ar yr un diwrnod â'r Prif Weinidog, Tony Blair, a apwyntiodd Goldsmith yn 2001. Ei olynydd oedd Patricia Scotland, Barwnes Scotland o Asthal. Gwasanaethodd yr Arglwydd Goldsmith am dymor hirach nag unrhyw Dwrnai Cyffredinol Llafur arall erioed. Ar hyn o bryd mae'n gweithio am y cwmni o gyfreithwyr Americanaidd Debevoise & Plimpton fel ei brif gyfreithiwr yn Ewrop.[1]

Peter Goldsmith, Barwn Goldsmith
Ganwyd5 Ionawr 1950 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddTwrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadSydney Elland Goldsmith Edit this on Wikidata
MamMyra Nurick Edit this on Wikidata
PriodJoy Elterman Edit this on Wikidata
PlantJamie Goldsmith, Charlotte Goldsmith, Jonathan Goldsmith, Benjamin Goldsmith Edit this on Wikidata

Ganwyd Peter Goldsmith yn Lerpwl yn 1950, yn fab i rieni Iddewig. Cafodd yrfa ddadleuol fel Twrnai Gwladol dan Tony Blair. Ef a gynghorodd llywodraeth Blair fod Rhyfel Irac yn gyfreithlon. Yn ddiweddar mae wedi arwain think-tank ar hyrwyddo Prydeindod sy'n cefnogi syniad Gordon Brown o gael "Diwrnod Prydeindod" yn y DU.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.