Diwrnod Prydeindod

Term sydd wedi cael ei fathu yn ddiweddar i ddisgrifio dydd gŵyl banc arfaethedig yn y DU i ddathlu Prydeindod yw "Diwrnod Prydeindod" neu "Ddiwrnod Prydeinig" (Saesneg: British Day). Un o brif ysgogwyr y syniad oedd yr Arglwydd Goldsmith a oedd yn mwynhau cefnogaeth amlwg Gordon Brown, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd ac rhai aelodau eraill o'i lywodraeth. Yn y cyfnod diweddar mae Prydeindod wedi ei bwysleisio gan Gordon Brown. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeindod" i ddod yn ŵyl flynyddol.[1][2] Yn Ebrill yn yr un flwyddyn dywedodd ei fod eisiau gweld "baner (Jac yr Undeb) yn hedfan ym mhob gardd yn y wlad" ar y diwrnod hwnnw.[3]

Sefyllfa bresennol

golygu

Ar hyn o bryd nid oes gan y DU ddiwrnod cenedlaethol fel y cyfryw, er bod rhai achlysuron fel Diwrnod Trafalgar yn cael eu gweld fel gwyliau "Prydeinig". Mae gan dair gwlad Prydain eu gwyliau cenedlaethol - Dydd Gŵyl Dewi (Cymru), Dydd San Sior (Lloegr) a Dydd Gŵyl San Andras (Yr Alban) - a dethlir Dydd Gŵyl Sant Padrig gan rhan o boblogaeth Gogledd Iwerddon, ond nid ydynt yn wyliau cyhoeddus. Tramor mae llysgenhadaethau'r DU yn dathlu Penblwydd Swyddogol y Frenhines.

Dyddiadau posibl

golygu

Mae'r dyddiadu sy'n cael eu crybwyll ar gyfer "Diwrnod Prydeindod" yn cynnwys:

Gwrthwynebiad

golygu

Yng Nghymru, Yr Alban, a'r gymuned Weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon, mae'r gwrthwynebiad potensial i "Ddiwrnod Prydeinig" yn sylweddol. Dros y blynyddoedd diweddar mae pobl yng Nghymru, er enghraifft, wedi bod yn galw i gael gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus. Yn ôl pôl piniwn yn 2006 roedd 87% o'r boblogaeth eisiau cael gŵyl banc ar Fawrth 1af yng Nghymru, gyda 65% yn barod i roi heibio un o'r gwyliau banc presennol pe bai rhaid er mwyn cael hynny.[5] Cafodd e-ddeiseb yn 2007 yn galw am ŵyl banc ar Fawrth 1af ei gwrthod gan y Prif Weinidog Tony Blair.[6] Yn y Cynulliad Cenedlaethol pleidleisiodd pob un o'r 60 AC yn unfrydol o blaid gŵyl banc Dewi, ond nid oes gan y Cynulliad rym deddfwriaethol ar hyn o bryd; gwrthododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y cynnig a drosglwyddwyd iddynt ar ran y Cynulliad gan Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[7][8] Gyda'r cynnydd mewn datganoli ac ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru a'r Alban mae fwy fwy o'r Cymry a'r Albanwyr yn ystyried eu hunain yn Gymry neu Albanwyr yn hytrach na Phrydeinwyr. Yn yr un modd, er ei bod yn bosibl y byddai "Diwrnod Prydeindod" yn dderbyniol gan rai o Unoliaetholwyr Wlster, byddai Gweriniaethwyr fel Sinn Fein yn siwr o'i wrthwynebu.

Mae'r syniad o gael "Diwrnod Prydeindod" neu "Diwrnod Prydain" i ddathlu Prydeindod yn un o sawl mesur a awgrymir mewn adroddiad dadleuol gan think-tank yr Arglwydd Goldsmith, un o ymgynghorwyr amlycaf Gordon Brown, sy'n cynnwys gorfodi myfyrwyr sy'n gadael yr ysgol - a dinasyddion y DU hefyd fel rhan o "Ddiwrnod Prydeindod" - i dyngu llw o deyrngarwch i Frenhines Prydain: cafodd yr awgrymiadau hyn eu gwrthod yn llwyr gan sawl gwleidydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, e.e. gan Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban. Cyfaddodd yr Arglwydd Goldsmith ei hun "there were undoubtedly issues raised about how a (British) national day would be received in Scotland, Wales and Northern Ireland".[9]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Diwrnod Prydeindod o'r Saesneg "British Day". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.