Arglwyddes Henry Somerset

Roedd Isabella Caroline, yr Arglwyddes Henry Somerset (née yr Arglwyddes Isabella Caroline Somers-Cocks, 3 Awst 185112 Mawrth 1921) yn ddyngarwr, arweinydd dirwest ac ymgyrchydd dros hawliau merched[1]

Arglwyddes Henry Somerset
Ganwyd3 Awst 1851 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1921 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, golygydd Edit this on Wikidata
TadCharles Somers-Cocks Edit this on Wikidata
MamVirginia Pattle Edit this on Wikidata
PriodArglwydd Henry Somerset Edit this on Wikidata
PlantHenry Somerset Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganed Isabella Caroline Somers-Cocks yn Llundain fel yr hynaf cyntaf o dair merch Charles Somers-Cocks, 3rd Iarll Somers, a'i wraig Virginia (née Pattle). Rhoddwyd addysg breifat iddi. Gan nad oedd ganddi frodyr, roedd hi a'i chwaer Adeline yn gyd-etifeddion i'w tad, bu'r drydedd ferch, Virginia, marw o ddifftheria yn blentyn. Yn hogan o ddaliadau crefyddol dwys iawn bu bwriad ganddi ddod yn lliain yn ei ieuenctid.

Priodas

golygu

Priododd y Fonesig Isabella a'r Arglwydd Henry Somerset ar 6 Chwefror 1872[2], gan ddefnyddio’r teitl priodasol yr Arglwyddes Henry Somerset. Roedd yn ymddangos bod y briodas yn un berffaith. Roedd y gŵr yn ail fab i Henry Somerset, 8fed Dug Beaufort, a gan hynny yn sefyll i etifeddu bron ddim, yn wahanol iddi hi. Byddai'r briodas yn uno dau deulu dylanwadol ac yn dod ag arian i Somerset a gŵr o statws i Isabella.

Ar 18 Mai 1874, enwyd mab ac etifedd i'r cwpl a enwyd yn Henry Charles Somers Augustus.

Fodd bynnag, roedd yr Arglwydd Henry yn gyfunrywiol, a bu hyn yn achos i'r briodas chwalu. Roedd cyfunrywioldeb gwrywaidd yn drosedd yn y Deyrnas Unedig ar y pryd, ond roedd disgwyl i fenywod droi llygad dall i bob math o anffyddlondeb gan eu gŵr. Gwnaeth yr Arglwyddes Henry torri confensiynau cymdeithasol y dydd trwy wahanu oddi wrth ei gŵr a gwneud cais i'r llysoedd i gael gwarchodaeth dros y mab[3]. Enillodd yr achos llys ym 1878 gan gael gofal y mab[4], ond cafodd ei hysgoi gan y gymdeithas uchelwrol.

Bu'n rhaid i'r Arglwydd Henry ffoi i Fflorens er mwyn osgoi cael ei erlyn a'i garcharu am ei droseddau rhywiol. Ni fu i'r cwpl ysgaru oherwydd daliadau crefyddol cryf yr Arglwyddes a diffyg awydd gan yr Arglwydd i gael trafodaeth bellach am ei ymddygiad yn y llysoedd barn.

Symudodd yr Arglwyddes Henry i Ledbury, i fyw ger ei chartref teuluol, lle bu'n ymwneud â gwaith elusennol. Bu farw ei thad ym 1883, gan adael iddi Gastell Eastnor, stadau yn Swydd Gaerloyw a Surrey, ac eiddo tai slym yn nwyrain Llundain.

Achos dirwest

golygu

Wedi i gyfaill agos iddi gyflawni gweithred o hunanladdiad tra'n feddw, dechreuodd yr Arglwyddes Henry magu diddordeb yng ngwaith y mudiad dirwestol. Ar ôl cychwyn gweithio gyda mudiadau dirwest lleol i ardal Ledbury ymunodd a Chymdeithas Ddirwestol Merched Prydain gan gael ei hethol yn llywydd y Gymdeithas ym 1890[5]. Ym 1891 aeth ar daith i'r Unol Daleithiau lle fu'n annerch cynhadledd gyntaf Cymdeithas Ddirwestol Gristnogol y Byd. Yn y gynhadledd cyfarfyddid a Frances Willard, llywydd y gymdeithas ryngwladol a daeth y ddwy yn gyfeillion mawr, etholwyd yr arglwyddes yn is-lywydd y gymdeithas.

Yn ystod tymor Arglwyddes Henry fel llywydd Cymdeithas Ddirwestol Merched Prydain, tyfodd y sefydliad yn gyflym a chyrhaeddodd ddylanwad gwleidyddol a chymdeithasol fawr. Cysylltodd ei hun gyda'r Blaid Ryddfrydol.

Roedd yr Arglwyddes Henry yn hyrwyddo rheoli cenhedlu; ym 1895, honnodd fod pechod yn dechrau gyda phlentyn nad oedd ei eisiau.

Cafodd ei bedyddio a'i godi ynn aelod o Eglwys Loegr ond o 1885 bu'n addoli'n bennaf mewn capeli'r Methodistiaid.

Roedd yr Arglwyddes yn gefnogwr brwd i achos rhyddid i ferched gan gynnwys rhoi'r hawl i bleidleisio iddynt. O 1894 hyd 1899, gwasanaethodd fel golygydd y cylchgrawn ffeminist Prydeinig wythnosol The Woman's Signal. Bu'r Arglwyddes yn ymgyrch yn erbyn y defnydd o tableaux yn y theatrau gerdd, lle byddai actorion yn ail greu lluniau enwog trwy eu hystumio. Byddai'r tableaux, wrth gwrs, yn aml yn ystumio darluniau oedd yn cynnwys merched noeth.

Wedi marwolaeth Willard ym 1898 dyrchafwyd yr Arglwyddes Henry yn llywydd Cymdeithas Ddirwestol Gristnogol y Byd gan aros yn y swydd hyd at 1906, .

Bywyd ddiweddarach a marwolaeth

golygu
 
Bedd yr Arglwyddes Henry Somerset

Wedi rhoi'r gorau i'w swyddi cenedlaethol a rhyngwladol ymroddodd yr Arglwyddes Henry weddill ei bywyd i'r trefedigaeth i fenywod meddw, bu iddi sefydlu yn, Duxhurst, Reigate, ym 1895. Roedd yn gyfleuster i adsefydlu menywod alcoholig i fywyd gwerth chweil, a gwelodd hon fel ei dasg bwysicaf.

Ym 1913, pleidleisiodd darllenwyr y papur newyddion The London Evening News yr Arglwyddes Henry fel y wraig y byddent yn hoffi gweld yn cael ei hethol i fod yn brif weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig.

Bu farw yn Llundain ar 12 Mawrth 1921 yn dilyn salwch byr. Cafodd ei goroesi gan ei gŵr dieithriad a gan ei hunig blentyn. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Brookwood, Surry

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tyrrell, I. (2004-09-23). Somerset (née Somers-Cocks), Lady Isabella Caroline (Lady Henry Somerset) (1851–1921), temperance activist and campaigner for women's rights. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 31 Rhag 2017
  2. "MARRIAGE OF LORD H SOMERSET AND LADY ISABEL SOMERS COCKS - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1872-02-09. Cyrchwyd 2017-12-30.
  3. "LORD AND LADY HENRY SOMERSET - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1878-06-01. Cyrchwyd 2017-12-30.
  4. "IN RE SOMERSET AN INFANT - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1878-08-17. Cyrchwyd 2017-12-30.
  5. "YR ARGLWYDDES HENRY SOMERSET YN NGHYMRU - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1893-12-16. Cyrchwyd 2018-01-01.