Arglwydd Henry Somerset
Roedd yr Arglwydd Henry Richard Charles Somerset (7 Rhagfyr 1849 - 10 Hydref 1932) yn fonheddwr Cymreig, yn gyfansoddwr caneuon poblogaidd ac yn wleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fynwy rhwng 1871 a 1880.
Arglwydd Henry Somerset | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1849 |
Bu farw | 10 Hydref 1932 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Henry Somerset, 8fed Dug Beaufort |
Mam | Georgiana Curzon |
Priod | Arglwyddes Henry Somerset |
Plant | Henry Somerset |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Somerset yn An Clochán, Swydd Galway yn ail fab i Henry Somerset 8fed Dug Beaufort a'i wraig yr Arglwyddes Georgiana Charlotte Curzon, merch Richard Curzon-Howe, Iarll 1af Howe. Roedd yn frawd i Henry Somerset, 9fed Dug Beaufort, a'r Arglwydd Arthur Somerset.
Gyrfa Wleidyddol
golyguWedi pasio'r deddfau uno rhoddwyd hawl i Sir Fynwy danfon dau aelod i Senedd Lloegr. O'r cychwyn cyntaf roedd un o'r aelodau yn perthyn i deulu Morgan, Tredegar a'r llall yn perthyn i deulu Somerset, Beaufort[1][2].
Wrth gyrraedd ei 21 mlwydd oed (oedran dyfod yn oedolyn ar y pryd) aeth Somerset, yn unol â'r drefn i feibion o'i gefndir, ar daith drwy Ewrop. Wedi iddo ddychwelyd bu'n rhaid i'w gefnder, Poulett George Henry Somerset, ildio'i sedd i wneud lle i fab y Dug. Etholwyd yr Arglwydd Henry yn ddiwrthwynebiad mewn isetholiad a gynhaliwyd ym 1871 yn ŵr ifanc 22 mlwydd oed. Y disgwyl oedd y byddai'n parhau yn aelod am weddill ei oes.
Ail etholwyd Somerset yn etholiad cyffredinol 1874, eto'n ddiwrthwynebiad. Ychydig wedi'r etholiad penodwyd Somerset i swydd Distain Aelwyd ei Mawrhydi[3]. Yn wreiddiol bu'n swydd i unigolyn a oedd yn edrych ar ôl costau cadw tŷ'r brenin ond erbyn i Somerset cael ei benodi roedd yn segurswydd. Ond er segurdod y swydd roedd yn swydd gyda chyflog, a chyflog gweddol ddechau o dros £900 y flwyddyn (gwerth dros £70K yn 2017[4]). Gan ei fod yn swydd wladol gyda chyflog roedd rheolau'r Senedd yn dweud bod rhaid i ddyn ymddeol o'r senedd i'w derbyn ac ail gynnig ei enw i'r etholwyr. Etholwyd Somerset yn ddiwrthwynebiad am y drydedd tro.
Yn y Senedd roedd Somerset yn cael ei ystyried yn aelod ffyddlon i'w blaid, yn pleidleisio gyda'r llywodraeth bron pob tro. Roedd yn cefnogi'r sefydliad ac yn gwrthwynebu newid i'r drefn. Roedd yn erbyn cyfyngu ar werthiant alcohol, roedd yn erbyn datgysylltu'r eglwys, yn erbyn hawliau merched a Chatholigion.
Ym mis Mawrth 1874 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Raglaw Sir Fynwy ac fe'i hurddwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.
Roedd ei ddyfodol yn edrych yn ddisglair iawn, ond ym 1878 achosodd sgandal rhywiol a phriodasol chwalu'r cyfan.[5]
Priodas
golyguAr 6 Chwefror 1872 priododd Somerset yr Arglwyddes Isabella Caroline Somers-Cocks[6], merch hynaf ac etifedd Charles Somers-Cocks, 3rd Iarll Somers[7]. Roedd yn briodas bwysig. Yn uno dau deulu dylanwadol ac yn dod ag arian a statws i Somerset yn ogystal â gwraig. Ar 18 Mai 1874 ganwyd mab i'r cwpl.
Ym mis Chwefror 1878, dychwelodd yr Arglwyddes Somerset adref i ganfod ei gwr yn y gwely yn cyflawni gweithred rywiol gyda Henry Smith, hogyn 17 oed a mab i gyfaill teuluol[8]. Ffodd yr Arglwyddes o'r cartref teuluol gan fynd a'i mab ifanc gyda hi[9]. Penderfynodd yr Arglwydd cyflwyno cais Habeas Corpus[10] o flaen y llysoedd i geisio gorfodi ei wraig i ddychwelyd ei fab iddo, fe wrthwynebodd hi'r cais gan wneud gwrth-gais am warchodaeth y plentyn[11]. Achos yr arglwyddes bu'n fuddugol, rhoddwyd gwarchodaeth iddi hi[12].
Camgymeriad enfawr ar ran yr Arglwydd Henry Somerset oedd mynd ag achos i'r llys. Trwy'r achos llys daeth achos y rhwyg rhyngddo ef a'i wraig yn hysbys. Roedd gwrywgydiaeth yn anghyfreithiol o dan gyfraith Lloegr ar y pryd; hyd 1861 y gosb am y drosedd oedd y gosb eithaf. Ym 1878 roedd y gosb yn garchar am oes. Er na chafwyd Somerset yn euog o drosedd wrywgydiol, roedd y ffaith bod llys wedi derbyn rhesymau ei wraig dros gadw gwarchodaeth yn ddigon o dystiolaeth i'w erlyn yn llwyddiannus.
Er mwyn osgoi cael ei arestio a'i roi ar brawf ymddiswyddodd Somerset o'i rôl fel Distain ac aeth yn alltud i Fflorens, lle fu'n byw am weddill ei oes. Ym 1889, bu'n rhaid i'w brawd iau, yr Arglwydd Arthur Somerset, ffoi'n alltud i osgoi erlyniad am droseddau gwrywgydiol hefyd.
Ym 1902 ceisiodd Somerset ymweld â Lloegr er mwyn mynychu Coroni ei hen gyfaill Edward VII. Roedd yn gobeithio byddai'r sgandal wedi ei anghofio a byddai modd iddo ddychwelyd adref i fyw. Clywodd ei fam yng nghyfraith am ei gynlluniau ac fe'i cyflogodd ditectif preifat i ddilyn ei daith yn ôl ac i hysbysu Scotland Yard pe bai yn gosod troed ar dir Prydeinig. Bu'n rhaid iddo ffoi yn ôl i Fflorens.
Gyrfa gerddorol
golyguRoedd Somerset yn adnabyddus fel un a dawn gerddorol ers yn blentyn, roedd yn alluog fel canwr piano ac organ eglwys. Yn ystod ei alltudiaeth dechreuodd cyfansoddi a chyhoeddi caneuon serch sentimental gyda pheth lwyddiant.
- anghyflawn
- Weep ye not for the dead. Anthem (1881); geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
- Two Roses and a Lily. Can (1885); geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
- What did it mean? Can (1886); geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
- Where'er you go. Can (1887); geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
- Songs of Adieu, casgliad o ganeuon; (1889) ailargraffwyd 2016 gan Forgotten Books ISBN 1333671148
- Faith and love. Can; geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
- Farewell. Can; geiriau J.A. Symonds, cerddoriaeth yr Arglwydd Henry Somerset
- Dawn. Can; geiriau Clarence Forestier-Walker, cerddoriaeth yr Arglwydd Henry Somerset
- Echo. Can; geiriau Christina Rossetti, cerddoriaeth yr Arglwydd Henry Somerset
- A Song of Sleep, Can (1903); geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset. Darn i'r fiolin gan P. A. Tirindelli
- All through the Night. Can; geiriau a cherddoriaeth gan yr Arglwydd Henry Somerset
Marwolaeth
golyguBu farw o strôc yn ei gartref ar via Guido Monaco, Fflorens yn 82 mlwydd oed. Corfflosgwyd ei weddillion a danfonwyd ei lwch yn ôl i Loegr i'w gosod yng nghladdgell y teulu yn ystâd Badmington, Swydd Caerloyw[14].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "WELSH MEMBERS AND WELSH CONSTITUENCIES - The Western Mail". Abel Nadin. 1873-12-15. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ "ELECTION IN SOLTHI WAlES AD MONMOUTHSHIuB - The Western Mail". Abel Nadin. 1878-09-11. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ "THECOUNTYREPRESENTATION - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1874-03-06. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ UK Inflation Calculator Change in the value of British money over time / history adalwyd 30 Rhagfyr 2017
- ↑ Lord Henry Somerset adalwyd 29 Rhagfyr 2017
- ↑ Tyrrell, I. (2004-09-23). Somerset (née Somers-Cocks), Lady Isabella Caroline (Lady Henry Somerset) (1851–1921), temperance activist and campaigner for women's rights. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 31 Rhag 2017
- ↑ "MARRIAGE OF LORD H SOMERSET AND LADY ISABEL SOMERS COCKS - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1872-02-09. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ The Florentine Lord Henry Somerset On the run adalwyd 30 Rhagfyr 2017
- ↑ "WHAT THE WORLD SAYS - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales". Peter Williams. 1878-02-15. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ "LORD AND LADY HENRY SOMERSET - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1878-06-01. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ "LORD AND LADY HENRY SOMERSET - The Western Mail". Abel Nadin. 1878-05-27. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ "IN RE SOMERSET AN INFANT - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1878-08-17. Cyrchwyd 2017-12-30.
- ↑ Henry Richard Charles Somerset, awdur, ar Amazon.co.uk
- ↑ Portsmouth Evening News 11 Hydref 1932 Tud 7 Colofn 7 Death of Lord Henry Somerset
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Poulett George Henry Somerset |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1871 – 1880 |
Olynydd: John Rolls |
19eg ganrif]]