Arlywydd De Affrica
Arweinydd llywodraeth De Affrica o dan y Cyfansoddiad yw Arlywydd De Affrica. Rhwng 1961 a 1994, Arlywydd Gwladwriaeth oedd teitl yr arweinydd.
Enghraifft o'r canlynol | swydd gyhoeddus |
---|---|
Math | Arlywydd y Weriniaeth, pennaeth llywodraeth |
Rhan o | Cabinet of South Africa |
Dechrau/Sefydlu | 10 Mai 1994 |
Deiliad presennol | Cyril Ramaphosa |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Rhagflaenydd | State President of South Africa |
Gwladwriaeth | De Affrica |
Gwefan | http://www.thepresidency.gov.za/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etholir yr arlywydd gan aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, a thŷ isaf y Senedd. Fel rheol, arweinydd y prif blaid yw'r arlywydd, sef yr ANC ers yr etholiadau cyntaf di-hiliol a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 1994. Yr Arlywydd cyntaf i gael ei ethol o dan y Cyfansoddiad newydd oedd Nelson Mandela, a olynwyd gan Thabo Mbeki ym 1999, Kgalema Motlanthe ym mis Medi 2008, a chan Jacob Zuma ym mis Mai 2009. Mae §5, adran 88, y Cyfansoddiad hefyd yn cyfyngu cyfnod yr Arlywydd yn y swydd i ddau dymor.[1] Caiff Arlywydd ei ethol ar ôl pob etholiad seneddol, gan roi tymor o rhwng pum a deng mlynedd i'r arlywyddion..
Arlywyddion
golygu- 1961-1967 Charles Robert Swart
- 1967 Theophilius Ebenhaezer Donges
- 1967-1968 Jozua Francis Nande
- 1968-1975 Jacobus Johannes Fouche
- 1975-1978 Nicolaas Diedrichs
- 1978-1979 Balthazar Johannes Vorster
- 1979-1984 Marais Viljoen
- 1984-1989 Pieter Willem Botha
- 1989-1994 Frederik Willem de Klerk
- 1994-1999 Nelson Mandela
- 1999-2008 Thabo Mbeki
- 2008-2009 Kgalema Motlanthe
- 2009-2018 Jacob Zuma
- 2018-presennol Cyril Ramaphosa
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Swyddfa'r Arlywyddiaeth Archifwyd 2014-03-01 yn y Peiriant Wayback