Cytundeb Sèvres

cytundeb diddymu Ymerodraeth Otoman, 1920

Gyda Cytundeb Sèvres, gwelwyd Ymerodraeth yr Otomaniaid, a oedd eisoes yn ei lleihau yn sylweddol wedi Cytundeb Llundain 1913, ei leihau ymhellach nes iddi gilio i berfeddwlad yr Ymerodraeth sef penrhyn Anatolia. Amddifadwyd hi o'r holl diroedd Arabaidd a sofraniaeth dros y Bosporus ac ynysoedd y Dardanelle. Arwyddwyd y Cytundeb ar 10 Awst 1920 yn ystafell arddangos ffatri porslen Sérves, manufacture nationale de Sèvres. Mae Sèvres bellach yn faestref ar ochr orllewinol Paris.

Cytundeb Sèvres
Enghraifft o'r canlynolcytundeb heddwch, cytundeb amlochrog Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Awst 1920 Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
LleoliadSèvres Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthSèvres Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fersiwn 1927 o'r map a ddefnyddiwyd gan Gynulliad Fawr Genedlaethol Twrci yn dangos ffiniau'r Cytundeb (y map wedi ei hadnewyddu)
Rhai o lofnodwyr ar ran Ymerodraeth yr Otoman, ch/dde Rıza Tevfik Bölükbaşı; Y Grand Vizier, Damat Ferid Pasha; Gweinidog Addysg Otoman, Bağdatlı Hadi Pasha; a'r lysgennad, Reşad Halis

Mae'r cytundeb hefyd yn darparu digon o fesurau diogelu ar gyfer yr lleiafrifoedd byw yn Nhwrci, ac mae ei erthyglau 62-64, gwarantu y cyfle i ennill annibyniaeth o fewn y wladwriaeth, y mae eu ffiniau eu diffinio gan bwyllgor o'r Cwrdiaid Cymdeithas y Cenhedloedd dynodedig ad hoc.

Roedd gan y cytundeb bedwar llofnodwr ar ran y llywodraeth Otomanaidd. Cafodd y Cytundeb gadarnhau gan y Senedd Otoman ond gan fod hyn wedi cael ei ddiddymu yn flaenorol 18 Mawrth 1920, ni ddaeth i rym. Derbyniodd y Cytundeb gefnogaeth y Swltan Mehmed VI ond cafodd ei gwrthwynebu'n gryf gan hynny gan Mustafa Kemal Pasha, a arweiniodd Rhyfel Annibyniaeth Twrci gan orfodi pwerau Cynghreiriaid i ddychwelyd at y bwrdd trafod. Llofnododd a chytunodd y partïon ar gytundeb newydd â Chytundeb Lausanne yn 1923. Yn hynny o beth ni wireddwyd Cytundeb Sévres byth yn llawn - a nemor ddim yng nghyd-destun ffiniau Anatolia.

Amodau

golygu
 
Map o Gytundeb Sèvres yn dangos y ffiniau rhagdybiedig

Cytuniad ar ymraniad yr Ymerodraeth Otomanaidd yn dilyn y cytundebau gyfrinachol rhwng Pwerau y Cynghreiriaid a drafodwyd yng Nghynhadledd gyfrinachol San Remo yn Ebrill 1920. Darparwyd y cytundeb hwn ar gyfer 433 o erthyglau, y rhai mwyaf arwyddocaol yw'r canlynol.

Yn Fras

golygu
  • Sicrhawyd Annibyniaeth i Weriniaeth Ddemocrataidd Armenia ("Armenia Wilson") ac i deyrnas Hegiaz
  • Yn achos Cwrdistan penderfynwyd cynnal refferendwm i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol
  • Dyfarnwyd i'r Deyrnas Unedig 'genhedloedd' newydd Irac, Transiorddonen a Phalesteina. Roedd rhain wedi eu neilltuo fel rhan o "fandad" Cynghrair y Cenhedloedd newydd.
  • Dyfarnwyd i Ffrainc wledydd tiroedd a ddaeth maes o law yn Libanus a Syria a oedd hefyd i'w gweinyddu fel rhan o "mandad" Cynghrair y Cenhedloedd

Tiriogaeth

golygu
 
Map yn dangos ail-gyfuno "Groeg Fawr", a wireddwyd yn rannol gan y Cytundeb. Yn y gornel chwith gwelir y Prif Weinidog, Eleutherios Venizelos, a arwyddodd y Cytundeb ar ran Groeg.
  • Groeg - Daeth yr ymladd rhwng lluoedd y Cynghreiriaid a Thwrci i ben gyda Chadoediad Mudoros a lofnodwyd ar fwrdd llong HMS Agamemnon ym mhorthladd Mudoros ar ynys Lemnos ar 30 Hydref 1918. Yn dilyn y Cadoediad goresgyniwyd Smyrna (Izmir heddiw), a sefydlwyd y rheolaeth Groegaidd ar y ddinas ar 21 Mai 1919, wedi'i ddilyn gan y datganiad Protectorate o 30 Gorffennaf 1922. Roedd Gwlad Groeg yn llywodraethu'r ddinas am bum mlynedd; ar ddiwedd y cyfnod hwn, ar ôl plebysit, bydd dinasyddion Smyrna yn penderfynu a ydynt yn perthyn i Wlad Groeg neu i'r Ymerodraeth Otomanaidd. Dyfarnwyd llawer o dalaith Thrace i Roeg hefyd.

Gyda'r Cytundeb gwelwyd Gwlad Groeg, yn gwireddu ei hymgyrch "Syniad Megali", gan ennill dinasoedd Edirne ac Izmir (Smyrna mewn Groeg), ond lle diarddelwyd y Groegiaid maes o law yn 1922, gan luoedd Mustafa Kemal (Kemal Atatürk) y Rhyfel Groeg-Twrcaidd a'r Asia Leiaf.

  • Yr Eidal - dyfarnwyd meddiant Ynysoedd Dodecanese (a oedd wedi eu meddiannu ers y Rhyfel Eidalo-Twrcaidd, 1911-1912), er i Gytundeb Ouchy ragfarnu y dylai'r ynysoedd ddychwelyd i'r Ymerodraeth Otomanaidd). Datganwyd bod rhannau deheuol a dwyrain-ganolog Anatolia (arfordir Môr y Canoldir a chefnwlad Twrci) i'w rhoi'n "parthau dylanwad" i'r Eidalaidd.
  • Armenia - dyfarnwyd bod i gael llawer o hen ranbarthau Otoman yn y Cawcasws. Dyfarnwyd y byddai'r ffin derfynol yn cael ei benderfynu gan Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ar 22 Tachwedd 1920 dyfarnodd yr Arlywydd Woodrow Wilson y byddai Gweriniaeth Armenia i gan cynnwys talaith Trabzon (porthladd pwysig ar y Môr Du) Erzurum a Van - lle erbyn hynny, nad oedd presenoldeb sylweddol o boblogaeth Armenia ar ôl hil-laddiad ac alltudio'r Armeniaid oddi yno gan y Twrciaid. Roedd rhaid i'r Ymerodraeth gydnabod gweriniaeth yr Armeniaid;
  • Syria - dyfarnwyd bod taleithiau Ceyhan, Antep, Urfa, Mardin a Cizre i'w trosglwyddo i wladwriaeth newydd Syria. Dyfarnwyd bod Ffrainc i dderbyn mandad dros Syria a'r ardaloedd cyfagos o de-ddwyrain Anatolia. Datganwyd bod Cilicia, Cwrdistan a llawer o Anatolia canolog dwyreiniol i fod yn "barthau dylanwad" Ffrengig.
  • Y Deyrnas Unedig - dyfarnwyd bod Cwrdistan ar y ffin ag Irac i fod yn "barth dylanwad" i Brydain.
  • Istanbul - daeth prifddinas yr Ymerodraeth Otomanaidd, Istanbul o dan reolaeth ar y cyd gan Brydain, Ffrainc, a'r Eidal.
  • Culfor Rhydd - O'r Bosphorus, Môr Marmara a'r Dardanelles i fod yn ddiarfog. Rheolaeth dros y culfor i fod o dan reolaeth ryngwladol (a'r tollau, ac arian, hefyd).
 
Il Kurdistan e le zone limitrofe secondo il trattato di Sèvres
  • Rhanbarth Cwrdeg: gall comisiwn a ffurfiwyd gan Loegr, Ffrainc a'r Eidal sefydlu llywodraeth leol yn rhan ddwyreiniol yr Euphrates lle gall cymdeithas y Cwrdaidd ymgeisio am annibyniaeth ar ôl blwyddyn.
  • Hawliau lleiafrifoedd: rhaid i'r Ymerodraeth, heb wahaniaethu crefyddol ac ieithyddol, roi hawliau cyfartal i'r holl ddinasyddion Mwslimaidd sydd wedi'u halltudio ac yn dychwelyd nwyddau wedi'u halltudio, bydd y lleiafrifoedd yn rhydd i sefydlu ysgolion a sefydliadau crefyddol ar bob lefel.
  • Lluoedd Milwrol: bydd lluoedd milwrol yr Ymerodraeth yn gyfyngedig i uchafswm o 50,700 o filwyr ac ni all neb arfau technoleg soffistigedig a thechnoleg newydd; bydd fflyd y llongau Twrcaidd yn cael ei ddileu; ni fydd trefiad yn orfodol ac fe'i telir.
  • Ariannol: Roedd y Cynghreiriaid i reoli cyllideb yr Ymerodraeth. Roedd hyn i gynnwys goruchwyliaeth a chaniatâd i'r gyllideb genedlaethol, cyfreithiau ariannol a rheoliadau a rheolaeth lawn dros Banc Otomanaidd. Roedd y dyfarniad (capitulations) i'w hadfer hefyd, hynny yw, bydd y dinasyddion Cristnogol yn nhiriogaeth Otomanaidd yn gallu dychwelyd i fwynhau breintiau yn y maes cyfreithiol fel yr oedd wedi digwydd yn nyddiau'r Ymerodraeth Bysantaidd. Roedd eiddo'r Rheilffordd i Baghdad i'w drosglwyddo o eiddo Almaenig.
  • Cyfraith fasnachol a phreifat: bydd gorchymyn cyfreithiol a gweinyddol Twrcaidd yn cael ei addasu yn unol â'r rheolau a sefydlwyd gan y Cynghreiriaid.

Cytundeb nas Gwireddwyd

golygu
 
Bağdatlı Hadi Paşa, Cynrychiolydd Ymerodraeth yr Otoman, yn arwyddo'r Cytundeb

Gwrthodwyd cydnabod Cytundeb Sèvres yn gryf gan y cenedlaetholwyr Twrcaidd. Noda haneswyr di-Twrceg, bod amodau'r Cytundeb hyd yn oed yn fwy llym na Chytundeb Versailles ar yr Almaen.[1][2] Mewn gwirionedd bydd y rhai sy'n ymuno yn cael eu hystyried yn dfradwyr a'u hongian ar ôl dychwelyd. O dan arweiniad Mustafa Kemal, gwrthododd y cenedlaetholwyr yn erbyn Sultanate Istanbul a sefydlodd lywodraeth arwahan yn Ankara. Mae hyn yn cynrychioli dechrau'r hyn a elwir yn gyffredin "rhyfel annibyniaeth Twrci".

Wedi llwyddiant gwrth-ryfel neu'r Rhyfel Annibyniaeth Twrci, cyflwynwyd cytundeb newydd rhwng y Cynghreiriaid a Gweriniaeth newydd Twrci Atatürk - Cytundeb Lausanne. Dyma, fwy na heb, lunio ffiniau gwladwriaeth Twrci a'r gwledydd cyfagos, hyd heddiw.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Isaiah Friedman: British Miscalculations: The Rise of Muslim Nationalism, 1918–1925, Transaction Publishers, 2012, ISBN 1412847494, page 217.
  2. Michael Mandelbaum: The Fate of Nations: The Search for National Security in the Nineteenth and Twentieth Centuries, Cambridge University Press, 1988, ISBN 9780521357906, page 61 (footnote 55).