Arthur Humphreys-Owen
Roedd Arthur Charles Humphreys-Owen (9 Tachwedd 1836 – 9 Rhagfyr 1905) yn fargyfreithiwr, tirfeddiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig[1]
Arthur Humphreys-Owen | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1836 |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1905 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Priod | Isabelle Rosalind Humphreys-Owen |
Plant | Arthur Erskine Owen Humphreys-Owen, Alice Humphreys-Owen |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Arthur Charles Humphreys ym 1836 yn fab i Erskine Humphreys, bargyfreithiwr ac Eliza, merch Dr Edward Johnes MD, Garthmyl, ei wraig. Ym 1876 etifeddodd ystâd Glanhafren gan ei hen hen fodryb Ann Warburton Owen, a newidiodd ei enw i Humphreys-Owen. Roedd ystâd Glanhafren yn cynnwys tua 8,000 erw o dir ym mhlwyfi Aberriw, Castell Caereinion, a Llangurig.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ac MA.
Ym 1874 priododd Maria, merch James Russell QC, bu iddynt un mab a thair merch.
Gyrfa
golyguCafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1864 gan weithio wedyn fel Bargyfreithiwr yn y Llys Siawnsri.
Fe fu yn gyfarwyddwr cwmni rheilffordd y Cambrian ac fe fu yn gadeirydd y cwmni hwnnw a chwmni rheilffordd Canolbarth Cymru[2]
Gwasanaethodd fel is-gadeirydd Llysoedd Chwarter Sir Drefaldwyn
Gyrfa Wleidyddol
golyguPan ffurfiwyd cynghorau sir Cymru ym 1888 cafodd Humphreys Owen ei hethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Drefaldwyn. Arhosodd yn y gadair hyd ei farwolaeth ym 1905.
Pan gafodd Stuart Rendel ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1894 dewiswyd Humphreys-Owen fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i sefyll yn yr is etholiad i ethol olynydd iddo; llwyddodd i gadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr ac i gadw'r sedd hyd ei farwolaeth.
Bywyd cyhoeddus
golyguRoedd gan Humphreys-Owen diddordeb mawr mewn addysg. Yn y 1860au fe fu yn ymgyrchu i ddiddymu profion a oedd yn eithrio Anghydffurfwyr rhag cael mynediad i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt gan nad oeddynt yn cefnogi erthyglau Eglwys Loegr.
Fe fu yn aelod o Fwrdd Canolog Cymru, y corff oedd yn arolygu darpariaeth addysg ganolradd yng Nghymru.
Roedd yn aelod o Gyngor Colegau Prifysgol Aberystwyth a Bangor ac yn aelod o Lys Prifysgol Cymru.
Fe fu yn dirpwy Arglwydd Raglaw Sir Drefaldwyn[3]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Glanhafren ym 1905 a chafodd ei gladdu ym Mynwent Eglwys Trefaldwyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ HUMPHREYS-OWEN, ARTHUR CHARLES yn y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ DEATH OF MR HUMPHREYS-OWEN, M.P. yn Welsh Coast Pioneer, 15 Rhagfyr 1905 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Death of Mr Humphreys-Owen MP yn Cambrian News and Merionethshire Standard, 15 Rhagfyr 1905 [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Stuart Rendel |
Aelod Seneddol Maldwyn 1894 – 1905 |
Olynydd: David Davies |