Stuart Rendel
Roedd Stuart Rendel, Barwn 1af Rendel (2 Gorffennaf 1834 – 4 Mehefin 1913) yn ddiwydiannwr Prydeinig, dyngarwr a gwleidydd Rhyddfrydol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn rhwng 1880 a 1894.
Stuart Rendel | |
---|---|
Ganwyd | 2 Gorffennaf 1834 Plymouth |
Bu farw | 4 Mehefin 1913 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | James Meadows Rendel |
Mam | Catherine Jane Harris |
Priod | Ellen Sophy Hubbard |
Plant | Rose Ellen Rendel, Maud Ernestine Rendel, Grace Daphne Rendel, Clarice Margaret Rendel |
Cefndir ac addysg
golyguCafodd Rendel eni yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i'r peiriannydd sifil James Meadows Rendel a'i wraig Catherine Jane, merch W J Harris. Cafodd ei addysg yn Eton a Choleg Oriel, Rhydychen, gan raddio ym 1856 gyda gradd pedwerydd dosbarth mewn astudiaethau clasurol, graddiodd yn MA ym 1859. Cafodd ei alw i'r Bar ym 1861 ond ni fu erioed yn ymarfer yr alwedigaeth honno[1]. Roedd yn ymwneud yn bennaf a pheirianneg, gan ddod yn rheolwr cangen Llundain y cwmni cynhyrchu gynnau Armstrong and Mitchell[2] a chyfarwyddwr Cwmni Haearn a Dur Shelton.
Priododd Ellen Sophy, merch William Egerton Hubbard, ym 1857. Bu iddynt bedair merch. Priododd ei ail ferch, yr Anrhydeddus Maud Ernestine Rendel, Henry Gladstone, mab ei gyfaill agos, William Ewart Gladstone. Bu farw'r Arglwyddes Rendel ym mis Mai 1912 yn 74 oed
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd Rendel yn etholiad cyffredinol 1880 fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Maldwyn gan gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr[3], bu'r sedd yn un Rhyddfrydol am y 99 mlynedd olynol cyn i Delwyn Williams ei gipio yn ôl i'r Ceidwadwyr ym 1979 ar drothwy dathliadau canrif Rhyddfrydwyr Maldwyn. Bu Rendel yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn rhwng 1880 a'i ymddeoliad o'r Senedd ym 1894. Er ei fod yn Sais ac yn Anglican, daeth yn boblogaidd yn ei etholaeth anghydffurfiol trwy ddangos cefnogaeth brwd i achosion Cymreig megis Deddf Addysg Ganolradd Cymru, datgysylltu[4] a sefydlu Prifysgol Cymru. Gwasanaethodd fel llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymreig y Rhyddfrydwyr a chadeirydd pwyllgor yr aelodau seneddol Rhyddfrydol Cymreig.
Ar ei ymddeoliad o Dŷ'r Cyffredin ym 1894 cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Rendel, o Hatchlands yn Swydd Surrey.
Gwasanaethodd fel llywydd Prifysgol Aberystwyth o 1895 hyd at ei farwolaeth ym 1913
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Llundain, 10 Palace Green, Kensington Palace Gardens, ym mis Mehefin 1913, oed 78. Daeth y farwniaeth i ben ar ei farwolaeth gan nad oedd ganddo fab i'w hetifeddu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae Son Amdanynt yn Papur Pawb 29 Ebrill 1893 [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ THE ELSWICK WORKS yn Cambrian News and Merionethshire Standard, 5 Gorffennaf 1878 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ TREFALDWYN YN RHYDD. Y TORIAID WEDI COLLI Y FRWYDR yn Seren Cymru, 16 Ebrill 1880 [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ COLOFN Y DADGYSYLLTIAD Tyst, 9 Medi 1892 [4] adalwyd 9 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Watkin Williams-Wynn |
Aelod Seneddol Maldwyn (etholaeth seneddol) 1880 – 1894 |
Olynydd: Arthur Humphreys-Owen |