Llangurig

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangurig.[1] Fe'i lleolir ar Afon Gwy yng ngogledd-orllewin y sir, ar gyffordd yr A44 a'r A470 tua 3 milltir i'r de o Lanidloes.

Llangurig
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,000 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.405828°N 3.604694°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000311 Edit this on Wikidata
Cod OSSN909797 Edit this on Wikidata
Cod postSY18 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Yr A44 yn cyrraedd Llangurig.

Dywedir mai Llangurig yw'r pentref uchaf yng Nghymru ar uchder o 1,000 troedfedd. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn isel Foel Gurig. Wyth milltir i'r gorllewin, ar y lôn A470 i Aberystwyth, ceir pentref bychan Eisteddfa Gurig.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Hanes golygu

Daeth y Rhufeiniaid i ardal Llangurig a chodi caer anghysbell ger Pumlumon ar y safle a elwir yn Cae Gaer erbyn hyn.

Mae eglwys plwyf Llangurig yn gysegredig i Sant Curig (?5g). Yn ôl traddodiad sefydlwyd clas (mynachlog gynnar) ganddo ar y safle. Dywedir ei fod wedi derbyn tir y clas gan dri o feibion Maelgwn Gwynedd, sef Ceredig, Mael ac Arwystl, am fod ffiniau eu tiroedd (Ceredigion, Maelienydd ac Arwystli) yn cwrdd ger Llangurig (er bod Llangurig ei hun yn rhan o Arwystli). Cysylltir Curig â phentref Capel Curig yn Eryri hefyd. Ceir yn ogystal ddau gapel bychan yn y pentref.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangurig (pob oed) (723)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangurig) (122)
  
17.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangurig) (422)
  
58.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangurig) (102)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.