Arwr Glew y Werin

Cofiant i Jim Griffiths gan D. Ben Rees yw Arwr Glew y Werin a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Arwr Glew y Werin
AwdurD. Ben Rees
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi30/06/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847719010
GenreCofiannau Cymraeg

Bywgraffiad un o wleidyddion Cymraeg pwysicaf ail hanner yr 20g a Gweinidog Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths (1890-1975). Mae'r gyfrol hon yn llenwi bwlch arbennig, gan nad oes cyfrol Gymraeg wedi'i chyhoeddi am ei fywyd a'i yrfa.


Ganed D. Ben Rees yn Llanddewibrefi, Ceredigion. Mae'n adnabyddus fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Bu'n weinidog yng Nghwm Cynon rhwng 1962 i 1968, ac ymhlith Cymry Lerpwl ers hynny.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu