Mae'r Dr. D. Ben Rees (David Benjamin Rees, ganwyd Awst 1937) yn gyhoeddwr Cymraeg a Saesneg, yn awdur, yn ddarlithydd ac yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru ers 1962 ac yn arweinydd y gymuned Gymraeg yn Lerpwl. Mae'n arwain un o bump capel Cymraeg sy'n dal i fodoli yn Lerpwl.

D. Ben Rees
Ganwyd1937 Edit this on Wikidata
Llanddewi Brefi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
Dr D.Ben Rees

Ganwyd David Benjamin Rees yn Llanddewi Brefi. Sefydlwyd ei dŷ cyhoeddi bychan, Modern Welsh Publications Ltd, yn 1963 ac o 1963 i 1968 fe weithredodd o Abercynon yng Nghwm Cynon, de Cymru. Ers 1968 mae wedi gweithredu o Allerton, Lerpwl a hwn yw'r unig dŷ cyhoeddi Cymraeg sy'n dal i weithredu yn ninas Lerpwl.

Gwaith llenyddol golygu

Mewn cyfnod o ddeugain mlynedd fel ysgrifennwr, mae'r Dr. D. Ben  Rees wedi gweithio'n bennaf mewn pedwar maes:

Heddwch a heddychiaeth golygu

Cyhoeddwyd y bywgraffiad Mahatma Gandhi: Pensaer yr India (Mahatma Gandhi: The Architect of India) ym 1970. Mewn adolygiad yn y cylchgrawn misol, Barn, roedd y Parchedig Alwyn Roberts yn canmol y teitl am ddod â chyfraniad Mahatma Gandhi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Y gyfrol hon oedd ysbrydoliaeth cyfres o dri llyfr ar heddychwyr Cymreig. Roedd pob cyfrol yn cynnwys portread o fentrau heddwch gweithwyr heddychlon adnabyddus gan academyddion ac awduron dan y teitlau Herio'r Byd (1980), Dal i Herio'r Byd (1983) a Dal Ati i Herio'r Byd (1988) , pob un wedi'i golygu gan D. Ben Rees.

Gweithiau golygu

  • Arolwg 1965 (Golygydd) (1965);
  • Llyfr Gwasanaeth (Ieuenctid) (Golygydd) (1967);
  • Gwaith yr Eglwys (1967);
  • Mahatma Gandi : Pensaer yr India (1969);
  • Arolwg 1970 (Editor) (1970);
  • Arolwg (Editor) (1971);
  • Pymtheg o Wyr Llen yr Ugeinfed Ganrif (1972);
  • Dyrnaid o Awduron Cyfoes (Golygydd) (1974);
  • Enwogion Pedair Canrif (1400-1800) (1975);
  • Gweddiau'r Cristion (1976);
  • Cymry Adnabyddus 1951-1972 (1978); Gweddiau'r Cristion (1978);
  • Pregethwr y Bobl: Bywyd a Gwaith Dr Owen Thomas (1979);
  • Wales and its Culture (1980);
  • Herio'r Byd (Editor) (1980);
  • Cerddi eisteddfodol y diweddar Gwilym Jones (Golygydd) (1981);
  • Preparation for Crisis (1981);
  • Cyfaredd Capel Bethesda, Cemaes, Mon (1878-1981) (Golygydd) (1981);
  • Haneswyr yr Hen Gorff (1981);
  • Dal Ati i Herio'r Byd (Golygydd) (1983);
  • Gweddiau'r Cristion (1983);
  • Oriel o Heddychwyr Mawr y Byd (1983);
  • Pwy yw Pwy yng Nghymru - Who's Who in Wales, Volume 3 (1983);
  • The Liverpool Welsh and their Religion: two centuries of Welsh Calvinistic Methodism/Cymry Lerpwl a'u crefydd: dwy ganrif o Fethodistiaeth Galfinaidd Gymreig - R. Merfyn Jones a D. Ben Rees (Golygwyd gan D. Ben Rees) (1984);
  • Hanes Plwyf Llanddewi Brefi (1984);
  • Gwasanaethau'r Cristion (1987);
  • Deuddeg Diwygiwr Protest (Golygydd) (1988);
  • Dal Ati I Herio'r Byd (Editor) (1989);
  • May we wish you a goodnight in Hospital / Gordon A. Catherall and D. Ben Rees (1990);
  • A Liverpool Welsh Preacher: Dr. Owen Thomas (1990);
  • Prayers for Peace (1992);
  • Dathlu Grawnsypiau Canaan a detholiad (1995);
  • Graces for all occasions (1995);
  • Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau Cyfrol 1 (1997);
  • The Welsh of Merseyside, Volume 1 (1997);
  • Local and Parliamentary Politics of Liverpool from 1800 to 1911 (1999);
  • The Hague Declaration on Peace and Justice in the Twenty First Century, Bilingual (Golygydd) (2000);
  • Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau yn yr Ugeinfed Ganrif, Cyfrol 2 (2001);
  • The Welsh of Merseyside in the Twentieth Century, Volume 2 (2001);
  • Vehicles of Grace and Hope (2002);
  • Ffydd a Gwreiddiau John Saunders Lewis (Editor) (2002);
  • The Polymath: Reverend William Rees ('Gwilym Hiraethog' 1802-1883 of Liverpool) (2002);
  • Gweddiau am Gymru a'r Byd / Prayers for Wales and the World (2002);
  • Y Polymathiad o Gymro, Parchedig William Rees, Lerpwl (Gwilym Hiraethog 1802-1883) (2002);
  • Cwmni Deg Dawnus (2003);
  • The Call and Contribution of Dr Robert Arthur Hughes OBE, FRCA (1910-1996) and some of his predecessors in north East India Vol 1 (Golygydd) (2004);
  • Mr Evan Roberts Y Diwygiwr yn Sir Fôn 1905 / Mr Evan Roberts, The revivalist in Anglesey (2005);
  • Alffa ac Omega: tystiolaeth y Presbyteriaid Cymraeg yn Laird Street, Penbedw (1906-2006), a bilingual volume (2006);
  • The Life and work of Henry Richard (2007); Alun Owen: A Liverpool Welsh playwright (Golygydd) (2008);
  • Codi Stêm a Hwyl yn Lerpwl (2008);
  • Labour of Love in Liverpool (2008);
  • Arloeswyr Methodistiaeth Môn 1730-1791 (2006);
  • The Pioneers of Methodism in Anglesey (2006);
  • John Elias a'i Gyd Fethodistiaid Calfinaidd 1791-1841 / John Elias and the Calvinistic Methodists (1791-1841) (2007);
  • Oes Aur Crefydd Ym Môn, 1841-1885 / A golden Age of Religion in Anglesey 1841-1885 (2008);
  • Dr John Williams, Brynsiencyn a'i Ddoniau (1853-1921) / Dr John Williams, Brynsiencyn and his Talents (1853-1921) (2009);
  • John Calvin a'i Ddisgyblion Calfinaidd Cymraeg / John Calvin and his Welsh Disciples (2009);
  • The sage of a revival: early Welsh Pentecostal Methodism (2010);
  • Y Gwron o Genefa (2012);
  • A portrait of Battling Bessie (2011);
  • Cysegr Sancteiddiolaf Capel Westminster Road Ellesmere Port 1907-2007 / The Welsh missionary witness in Ellesmere Port (1907-2007) (2012);
  • Di-Ben-Draw: Hunangofiant (2015);
  • Dilyn Ffordd Tangnefedd: Canmlwyddiant Cymdeithas y Cymod (1914-2014) (Golygydd) (2015);
  • Arwr Glew y Werin (Cofiant i James Griffiths) (2015);
  • Y Cenhadwr Cyntaf o Blith Cymry Lerpwl: Josiah Hughes (1804-1840) / Josiah Hughes (1804-1840): The Reluctant Welsh Calvinistic Methodist Missionary of Malacca (2016);
  • The Healer of Shillong: Reverend Dr Hugh Gordon Roberts and the Welsh Mission Hospital (2016);
  • Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wyr mawr Mon a Chymru (2017);
  • Canmlwyddiant y Gadair Ddu, Gwyl Hedd Wyn / Black Chair Centenary (2017);
  • An Unlimited Life: An Autobiography (2018).

Diwylliant Cymreig golygu

Mae'r awdur wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn Saesneg ac yn Gymraeg ar ysgrifenwyr.

1) Mae Wales: Culture Heritage (1982) yn gyflwyniad poblogaidd i'r wasg Gymreig a'r traddodiad eisteddfodol, ac mae'n ceisio diffinio cynnwys diwylliant Cymru.

2) Samuel Roberts (1987), cofiant o'r awdur Fictoriaidd Samuel Roberts o Lanbrynmair. Cyhoeddwyd y llyfr yn Saesneg gan Wasg Prifysgol Cymru fel rhan o gyfres 'Ysgrifenwyr Cymru', dan olygyddiaeth Dr Meic Stephens a Dr R. Brinley Jones.

3) 12 o gyfrolau pellach rhwng 1975 a 2006, sy'n mynd i'r afael ag Anghydffurfiaeth Cymru, Astudiaethau Fictorianaidd a hanes cymuned Gymraeg Lerpwl. - Mae D. Ben Rees yn cael ei gydnabod fel yr awdurdod blaenllaw ar Hanes Cymry Lerpwl ers 1984 pan wnaeth ef a'r Athro R. Merfyn Jones gyd-ysgrifennu The Liverpool Welsh and their Religion. Roedd ei lyfr diweddaraf yn seiliedig ar gymuned Gymraeg Ellesmere Port (2012).

Diwinyddiaeth golygu

Mae Dr. D Ben Rees wedi dod yn ysgolhaig cydnabyddedig ar John Calvin (1509-1564) ac o Galfiniaethiaeth ers cyhoeddi pedwar llyfr, tri yn yr iaith Gymraeg, ar John Calvin a'i Ddisygblion Cymreig yn ystod y cyfnod 2008 a 2012. Cyflwynodd y Ddarlith Davies ar John Calvin a'r Cyfundeb yng Nghynulliad Cyffredinol ei enwad yn Llanbedr Pont Steffan yn 2008. Cyhoeddwyd y ddarlith bellach fel Y Gwron o Genefa: John Calfin a'i ddylanwad (Caernarfon, 2012).

Cyfeiriadau golygu