Asafoetida
Gwm planhigion arbennig, wedi'i sychu ydy Asafoetida, neu asifftea ar lafar gwlad (Ferula assa-foetida) /æsəˈfɛt[invalid input: 'ɨ']də/,[1]; caiff ei wasgu allan o risomau tanddaearol gwreiddiau nifer o rywogaethau'r Ferula, sy'n llysieuyn blynyddol tua 1 - 5 metr o uchder. O Afghanistan y daw'r planhigyn yn wreiddiol, a chaiff bellach ei dyfu yn India.[2] Credir fod ganddo rinweddau meddygol ac mae iddo arogl cryf iawn fel arfer; pan gaiff ei sychu a'i ddefnyddio mewn coginio, fodd bynnag, mae ei arogl yn fwyn ac yn debyg i arogl ygehninen.
Enghraifft o'r canlynol | tacson, parivyaya |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Ferula |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiffeta | |
---|---|
Ferula scorodosma neu assa-foetida | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Asterids |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Ferula |
Rhywogaeth: | F. assa-foetida |
Enw deuenwol | |
Ferula assa-foetida L. |
Enwau eraill arno ydyw bwyd y duwiau, asant, gwm drewllyd, jowani badian a cachu'r diafol.[3] Defnyddiwyd y gair ers dros canrif yn y Gymraeg fel ebychiad tebyg i "nefi blw!"
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Oxford English Dictionary. "asafœtida". Ail gyfrol, 1989.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-04. Cyrchwyd 2013-06-01.
- ↑ Literature Search Unit (Jan 2013). Ferula Asafoetida: Stinking Gum. Scientific literature search through SciFinder on Ferula asafetida. Indian Institute of Integrative Medicine.