Asterid
(Ailgyfeiriad o Asteridau)
Asteridau | |
---|---|
Llygad-llo mawr (Leucanthemum vulgare) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urddau | |
Gweler y rhestr |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r asteridau (Saesneg: asterids). Fel rheol, mae eu petalau'n ffurfio tiwb ac mae gan eu blodau nifer fach o frigerau. Mae llawer o asteridau'n cynnwys iridoidau (dosbarth o gemegion gyda blas chwerw) fel amddiffyniad yn erbyn llysysyddion. Gall asteridau fod o bwysigrwydd economaidd fel planhigion yr ardd, chwyn, llysiau rhinweddol neu gnydau (e.e. letys, tomatos, tatws, coffi).
Urddau
golyguYn ôl y system APG III, mae'r asteridau yn cynnwys 13 urdd a 5 teulu heb eu gosod mewn urdd:[1]
- Cornales: 6 teulu, 590 rhywogaeth
- Ericales: 22 deulu, 11,515 rhywogaeth
- Lamiidau (Ewasteridau I)
- Teulu Boraginaceae (urdd ansicr): 2740 rhywogaeth
- Teulu Vahliaceae (urdd ansicr): 8 rhywogaeth
- Teulu Icacinaceae (urdd ansicr): 149 rhywogaeth
- Teulu Metteniusaceae (urdd ansicr): 7 rhywogaeth
- Teulu Oncothecaceae (urdd ansicr): 2 rywogaeth
- Garryales: 2 deulu, 18 rhywogaeth
- Gentianales: 5 teulu, 16,637 rhywogaeth
- Lamiales: 23 theulu, 23,810 rhywogaeth
- Solanales: 5 teulu, 4080 rhywogaeth
- Campaniwlidau (Ewasteridau II)
- Aquifoliales: 5 teulu, 536 rhywogaeth
- Asterales: 11 teulu, 26,870 rhywogaeth
- Escalloniales: 1 teulu, 130 rhywogaeth
- Bruniales: 2 deulu, 79 rhywogaeth
- Paracryphiales: 1 teulu, 26 rhywogaeth
- Dipsacales: 2 deulu, 1090 rhywogaeth
- Apiales: 7 teulu, 5489 rhywogaeth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.
- Mauseth, James D. (2009) Botany: an introduction to plant biology (4ydd arg.), Jones & Bartlett, Sudbury, Massachusetts.
- Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.