Aston Martin Valkyrie

Mae'r Aston Martin Valkyrie (a elwir hefyd yn enwau mewnol AC-RB 001 a Nebula) yn gar coupé 2-ddrws cyflym, trydan hybrid. Cychwynwyd cynhyrchu'r car yn 2018, a hynny ar y cyd gan Aston Martin, Red Bull Racing a sawl gweithgynhyrchydd arall. Daw'r gair valkyrja o chwedloniaeth Hen Norwyeg; roedd hi'n un o nifer o dduwiesau a ddewisiai pwy mewn brwydr a oedd yn byw a phwy a oedd yn marw. Datgelwyd yr enw 'Valkyrie' yn enw newydd sbon yn 2017.

Aston Martin Valkyrie
Y car cysyniadol, Valkyrie.
Brasolwg
GwneuthurwrAston Martin
Ail enwNebula (enw gwreiddiol, mewnol)
AM-RB 001 (enw-mewnol terfynol)
Cynhyrchwyd2018 (cychwyn cynhyrchu)
Adeiladwyd ynGaydon, Warwickshire, Lloegr
Cynlluniwyd ganAdrian Newey
Corff a siasi
DosbarthCar cyflym (S)
Math o gorffcoupé 2-ddrws
GosodiadMid-engine
Pweru a gyriant
Injan6.5 L Cosworth naturally-aspirated V12
Pwer1,130 hp (843 kW; 1,146 PS)
Trosglwyddiad7-speed Ricardo dual-clutch
BatriRimac-built KERS hybrid battery system
Maint
Pwysau1,030 kg (2,271 lb)

Mae'r car chwarae yma'n gynnyrch sawl blwyddyn o gydweithio rhwng Aston Martin a Red Bull Racing i greu car y gellir ei ddefnyddio fel car ffordd. Mae gwneuthurwyr y car yn honni mai hwn yw'r car stryd cyflymaf yn y byd. Un o'r prid ddylunwyr oedd Adrian Newey, Prif Swyddog Technegol Red Bull Racing a dylunydd F1 mwyaf llwyddiannus y byd.[1][2]

Ei brif gystadleuwyr yw ceir Mercedes-AMG, a McLaren Senna.[3][4][5]

Yn ogystal â Red Bull, cydweithiodd nifer o gwmniau gan gynnwys: Cosworth, Ricardo, Rimac Automobili, Multimatic, Alcon, Bosch, Surface Transforms, Wipac, a Michelin.

Cyflymder a hwb gan fatri golygu

Mae'r car yn cynnwys peiriant V12 6.5 litr naturiol a deilwriwyd gan Cosworth, a gynlluniwyd i ddechrau i gynhyrchu oddeutu 1,000 hp (746 kW; 1,014 PS), ond fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach ym mis Mehefin 2017 y byddai'r injan yn cynhyrchu 1,130 hp (843 kW; 1,146 PS). Ar yr un pryd ryddhawyd yr allbwn pŵer, soniwyd hefyd am y pwysau, ar 1,030 kg (2,271 lb), sy'n rhagori ar y gymhareb 1: 1 cymhareb pŵer i bwysau, gyda 1,097 hp (818 kW; 1,112 PS) fesul tunnell.[6]

Gosodwyd system batri hybrid hyblyg, sy'n perfformio fel system KERS, ynghyd â'r injan. Cyflwynir y pŵer trwy drosglwyddiad swits 7 cyflymder a adeiladwyd gan Ricardo. Cynhyrchwyd y batri, o fath KERS, gan Rimac.

Mae'r nwyon gwacau'n dod drwy bibau mwg a osodwyd ger yr injan - yn union fel ceir rasio F1 a'r Porsche 918 Spyder.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Aston Martin and RedBull Racing collaborated HyperCar". Cyrchwyd 24 Awst 2016.
  2. "Mercedes-AMG 'Project One' - Defining the future with 'a street-legal F1 powertrain'". Evo. Cyrchwyd 2017-03-26.
  3. "Audi Plotting Electric Hypercar To Rival Aston Martin Valkyrie". CarBuzz. Cyrchwyd 2017-03-13.[dolen marw]
  4. "BMW Might Build A Hybrid Hypercar To Compete With Mercedes". Motor1.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-04-22.
  5. "Report: Aston Martin's Valkyrie will have 1,130 hp, weigh just over a ton". AutoWeek. 2017-06-23. Cyrchwyd 2017-06-23.