Astroffiseg
Astroffiseg yw'r gangen o seryddiaeth sy'n delio â ffiseg a chemeg y bydysawd h.y. gwneuthuriad ffisegol y planedau, y sêr a gwrthrychau eraill yn hytrach na'u lleoliad neu symudiad drwy'r gofod. Mae hyn yn cynnwys priodweddau megis dwysedd, tymheredd, cyfansoddion cemegol a goleuedd o wrthrychau wybrennol e.e. galaethau, sêr, planedau, planedau allheulol, a'r cyfrwng rhyngserol, yn ogystal a'i rhyngweithiadau.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, cangen o wyddoniaeth |
---|---|
Math | seryddiaeth, ffiseg |
Yn cynnwys | gwyddoniaeth y planedau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seryddiaeth | |
Lleuad |
Astudir pelydriad (radiation) y gwrthrychau hyn; gwneir hynny ar draws y sbectrwm elecromagnetig, gyda nifer o briodweddau gan gynnwys disgleirdeb (luminosity), dwysedd, tymheredd a chyfansoddiadau cemegol. Gan fod astroffiseg yn faes mor eang astudir ystod eang o feysydd gan gynnwys mecaneg, electromagneteg, mecaneg ystadegol, thermodeinameg, mecaneg cwantwm, Damcaniaeth perthnasedd, ffiseg niwclear a gronynnol a ffiseg atomig, moleciwlar ac optegol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Keeler, James E. (Tachwedd 1897), "The Importance of Astrophysical Research and the Relation of Astrophysics to the Other Physical Sciences", The Astrophysical Journal 6 (4): 271–288, Bibcode 1897ApJ.....6..271K, doi:10.1086/140401, "[Astrophysics] is closely allied on the one hand to astronomy, of which it Mai properly be classed as a branch, and on the other hand to chemistry and physics.… It seeks to ascertain the nature of the heavenly bodies, rather than their positions or motions in space–what they are, rather than where they are.… That which is perhaps most characteristic of astrophysics is the special prominence which it gives to the study of radiation."
- ↑ "astrophysics". Merriam-Webster, Incorporated. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2011-05-22. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)