Gorsaf bŵer niwclear yng ngogledd Ynys Môn yw Atomfa'r Wylfa neu Gorsaf Bŵer Niwclear yr Wylfa. Saif ar benrhyn ar yr arfordir, ychydig i'r dwyrain o dref Cemaes. Daw'r enw o enw tŷ a adeiladwyd ar y safle yn niwedd y 19g gan David Hughes.

Atomfa'r Wylfa
Mathatomfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbadrig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.4167°N 4.4833°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganMagnox Ltd Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd yr atomfa o 1963 ymlaen (ond roedd gwaith paratoi'r safle wedi dechrau yn 1962) ac agorwyd yr orsaf yn 1971. Mae'n cynnwys dau adweithydd niwclear Magnox, 490 MW yr un, "Wylfa-1" a "Wylfa-2". Hi yw'r orsaf fwyaf o'r math yma yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd yn 2006 y byddai gorsaf yr Wylfa yn cau yn 2010, gan na byddai'n economaidd ei chadw wedi'r dyddiad hwnnw. Bu awgrym y gellid ei chadw ar agor am rai blynyddoedd wedyn. Mae hefyd awgrym adeiladu gorsaf niwclear newydd, Wylfa B, ar y safle, er bod hyn yn cael ei wrthwynebu gan grŵp PAWB (Pobl Atal Wylfa-B).

Atomfa'r Wylfa
Mark Saunderson - Un o gynrychiolwyr Atomfa'r Wylfa (Cyflwyniad byr yn Eisteddfod Genedlaethol 2017)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu