PAWB (Pobl Atal Wylfa-B)

Sefydlwyd PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) (Saesneg: People Against Wylfa-B) yn 1988 i wrthwynebu adeiladau ail atomfa (Wylfa-B) yn Ynys Môn. Yn bennaf am iddynt gredu fod gwastraff niwclear yn rhy beryglus.

Protest mudiad PAWB Llangefni, Ionawr 2012 i gefnogi teulu Jones, Fferm Caerdegog a wrthododd werthu eu tir i godi Atomfa'r Wylfa

Mae PAWB hefyd o'r farn fod yr atomfa newydd yn rhy ddrud a bod ffyrdd glanach a rhatach o gynhyrchu trydan. Mae PAWB wedi dadlau’n gyson yn erbyn y syniad bod atomfa yn fudd economaidd i Ynys Môn.[1]

Yr atomfa wreiddiol golygu

Codwyd yr atomfa wreiddiol yn y 1960au yn y Wylfa ar arfordir gogleddol Ynys Môn. Agorwyd yr orsaf yn 1971. Mae'n cynnwys dau adweithydd niwclear Magnox, yr orsaf fwyaf o'r math yn Ynysoedd Prydain. Bwriadwyd i'r orsaf fod yn agored am tua 50 mlynedd. (Cyhoeddwyd yn 2006 y byddai gorsaf yr Wylfa yn cau yn 2010, gan na byddai'n economaidd ei chadw).

Wylfa-B a sefydlu PAWB golygu

Yn y 1980au roedd bwriad gan Lywodraeth Llundain codi ail genhedlaeth o atomfeydd a ffurfiwyd PAWB i atal ail atomfa yn y Wylfa (y Wylfa-B). Daeth cynlluniau Llundain am fwy o ynni niwclear i ben yn dilyn trychineb yn atomfa Chernobyl yn yr Wcrain,1986.

Ail-sefydlu golygu

Ar ddechrau’r 21ain ganrif cyhoeddodd Llywodraeth Llundain o dan arweinyddiaeth Tony Blair gynigion i godi cenhedlaeth newydd o atomfeydd ar draws gwledydd Prydain, yn cynnwys atomfa newydd yn y Wylfa. Ail gododd grŵp PAWB ac unwaith eto i’w gwrthwynebu.[1]

Daeth dros 300 o bobl i rali PAWB yn Llangefni yn Ionawr, 2012 i gefnogi teulu Jones, Fferm Caerdegog a wrthododd werthu eu tir i gwmni Horizon.[1]

Yn 2011, yn sgil daeargryn a tsunami bu trychineb yn Japan yng ngorsaf niwclear Fukushima Daiichi. Mae aelodau PAWB wedi ymweld â Fukushima ac wedi magu cysylltiadau gyda mudiadau gwrth niwclear yn Japan.

 
Naoto Kan, cyn Brif Weinidog, Japan

Yn 2015 ar wahoddiad PAWB daeth Naoto Kan, cyn-Brif Weinidog Japan adeg trychineb Fukushima, i annerch cyfarfodydd gwrth-niwclear yng Nghaerdydd, Wylfa a Llanfairpwll yn erfyn i atal Wylfa-B.[2]

Wedi i PAWB ddatgan am hir amser nad oedd arian i dalu am atomfa newydd yn Ionawr 2019 cyhoeddodd Hitachi, y prif cwmni y tu ôl i prosiect Wylfa Newydd, nad oeddent yn gallu dod o hyd i fuddsoddwyr a bu rhaid iddynt dynnu allan o'r brosiect.[3]

Dolenni golygu

Gwefan PAWB: https://www.stop-wylfa.org/cy/

Cyfeiriadau golygu