Addasiad i'r llwyfan o'r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld! gan Mei Jones yw Awê Bryncoch! Cyflwynwyd y Cynhyrchiad yn Theatr Gwynedd, Bangor ym 1993 gan Gwmni Theatr Gwynedd, fel rhan o ddathliadau'r Cwmni yn saith oed. Cyfarwyddwr y Cynhyrchiad oedd Graham Laker.[1] Cafwyd cyfuniad o 'olygfeydd cyfarwydd o gyfres deledu S4C, ar y llwyfan ac ymysg y gynulleidfa, oedd yn dyblu fel cae pêl droed enfawr.

Awê Bryncoch!
AwdurMei Jones
Cyhoeddwrheb ei gyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1993
Pwncpêl droed
GenreDramâu Cymraeg

Derbyniodd y Cynhyrchiad adolygiadau ffafriol iawn gan sawl beirniad theatr.

Ni chafodd y sgript ei gyhoeddi hyd yma.

Cymeriadau

golygu
  • Arthur Picton - rheolwr Tîm Peldroed Bryncoch
  • Wali Tomos - ar y lein
  • Tecwyn Parry - ceidwad y gôl
  • George Hughes - aelod o'r tïm
  • Sandra Picton - gwraig George
  • Jean Parry - gwraig Tecwyn
  • Lydia Tomos - mam Wali
  • Rhannau Eraill

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1993. Cyfarwyddwr: Graham Laker; cynllunydd Eryl Ellis; cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Awê Bryncoch! gan Mei Jones.