Cyfarwyddwr theatr ac Arweinydd Artistig Cwmni Theatr Gwynedd oedd Graham Laker (16 Rhagfyr 194928 Tachwedd 2001). Bu blynyddoedd Graham fel cyfarwyddwr llawrydd ac fel cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Gwynedd yn rhai toreithiog. Llwyfannodd gomedïau, trasiedïau, sioeau cerdd, amryw o’r clasuron yn ogystal â dramâu newydd.

Graham Laker
Ganwyd16 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 2001 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, adolygydd theatr Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Yn frodor o Brighton a Hove, De Ddwyrain Lloegr, bu Graham Laker yn ddarlithydd yn Adran Ddrama Coleg Prifysgol Cymru, Bangor, a thra yn y coleg fe gychwynnodd ei berthynas â Theatr Gwynedd. Llwyfannodd gynyrchiadau yno ar gyfer eu Tymor Haf; sioeau cerdd megis Joseph a Fiddler On The Roof, ynghyd â dramau megis Sleuth ac Educating Rita. Pan gaewyd adran ddrama’r coleg, daeth yn gyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Gwynedd, sef cwmni y bu ef ei hun yn flaenllaw wrth ei sefydlu. Gyda’r cwmni hwnnw, bu’n gyfrifol am amrywiaeth o gynyrchiadau, yn ddramâu newydd fel Leni, Yr Aduniad ac Awe Bryncoch, yn glasuron Cymraeg fel Enoc Huws, Cwm Glo ac Y Tŵr, ac yn glasuron rhyngwladol mewn cyfieithiad fel Y Cylch Sialc, Y Werin Wydr a Ddoe Yn Ôl. O’r addasiad bythgofiadwy o nofel T. Rowland Hughes, O Law i Law, i’w gampwaith olaf, Amadeus, mae rhestr faith ei gyflwyniadau yn tystio iddo gyson arlwyo cynnyrch difyr a chreadigol ac o’r safon uchaf ar gyfer ein llwyfannau. Bu’n cydweithio gyda nifer helaeth o actorion a thechnegwyr y theatr, a rheini oll yn cofio amdano gyda pharch a chynhesrwydd. Rhoddodd y cyfle cyntaf i amryw o actorion newydd gan feithrin a chynnal eu diddordeb a’u gyrfa yn y theatr. Dychwelodd i fyd addysg yn ei flynyddoedd olaf, y tro hwn gydag Adran Theatr, Ffilm a Theledu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yno, fel ym Mangor, bu ei ddylanwad yn dawel bell-gyrhaeddol.

Teyrngedau golygu

“Bu ei gyfraniad i fyd y theatr yng Nghymru yn amhrisiadwy," yn ôl yr actor Arwel Gruffydd, a fu’n cydweithio â Graham Laker ar sawl achlysur. "Bu ei bersonoliaeth ddiymhongar, ei addfwynder, ei allu a'i ddysg yn ysbrydoliaeth i bawb a ddaeth i gysylltiad ag o. Cofir amdano fel gŵr graslon a chyfarwyddwr hynaws a ddaeth a chymaint o fwyniant i gymaint o bobl yn ystod ei oes gymharol fer.”

“Mi dolltodd Graham ei egni di-ben-draw i achos y Theatr yma yng Nghymru” meddai Valmai Jones, un arall o’i gyfeillion a’i gydweithwyr. “Mi weithiodd, mi boenodd, mi frwydrodd, mi chwysodd, mi greodd, mi chwarddodd drwy’r cwbwl, ac mi ddaru hyn oll yn yr iaith Gymraeg.”

Actor arall a gydweithiodd gryn dipyn gyda Graham oedd John Ogwen, sy’n sôn am “ei gywreinrwydd, ei garisma a’i urddas di-feth” gan ychwanegu bod “brwdfrydedd dyfeisgar Graham a’i gyfarwyddo tawel yn bleser pur”.

“Wedi paratoi’n wastadol drylwyr,” meddai Maureen Rhys, “roedd gan Graham yr urddas, y craffter a’r doethineb i roi’r argraff i ni’r actorion mai ni oedd wedi gwneud y gwaith i gyd, gan wybod ar hyd yr amser mai yn y diwedd ei gynhyrchiad ef o bob tro.”

“Fan yma, ynghanol llwch a gwres y theatr mae fy nefoedd i.” Graham Laker

Cofio Graham golygu

Ar gychwyn wythnos Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005, bu criw o gyfeillion a chydweithwyr adnabyddus Graham Laker yn dathlu ei gyfraniad i fyd y theatr ym mar Theatr Gwynedd. Mwynhawyd rhai o uchafbwyntiau ei gyflwyniadau mewn noson hwyliog o gân, cerdd a drama. Ymhlith y cyfranwyr fu John Ogwen, Maureen Rhys, Siân James, Dafydd Dafis, Christine Pritchard, Jonathan Nefydd, Olwen Medi, Arwel Gruffydd a Sioned Webb.

Apêl Cofio Graham golygu

Sefydlwyd Cronfa arbennig i Gofio Graham yn 2005 a gwahoddwyd cyfraniadau ariannol oddi wrth gyfeillion, cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr Graham Laker, oddi wrth unigolion, sefydliadau a chwmnïau fu'n ymwneud â drama yng Nghymru, ac oddi wrth garedigion y Theatr Gymraeg a fwynhaodd gyflwyniadau Graham Laker yn ystod ei oes fel cyfarwyddwr llawrydd ac fel cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Gwynedd. Y nod yw defnyddio’r arian a gesglir i greu cofeb barhaol i un a roddodd gymaint o’i fywyd a’i egni i fyd y theatr.