Béla Kun
Gwleidydd comiwnyddol o Hwngari oedd Béla Kun (20 Chwefror 1886 – 1938?) a fu'n arweinydd ar Weriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919).
Béla Kun | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1886 Cehu Silvaniei |
Bu farw | 29 Awst 1938 Moscfa |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Minister of Foreign Affairs of Hungary, member of ECCI |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Hungary |
Ganed i deulu o dras Iddewig mewn pentref ger Szilágycseh yn rhanbarth Transylfania, Awstria-Hwngari, a leolir heddiw yn Rwmania. Yn ei ieuenctid, bu'n weithgar yn y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yn Nhransylfania ac yn ddiweddarach ym Mwdapest. Fe'i galwyd i fyddin Awstria-Hwngari ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac ym 1916 cafodd ei ddal yn garcharor rhyfel yn Rwsia. Ymunodd â'r Bolsieficiaid a chafodd ei hyfforddi mewn tactegau chwyldroadol gan Lenin, ac yn sgil cwymp y Pwerau Canolog yn Nhachwedd 1918 fe ddychwelodd i Hwngari. Cyhoeddodd Kun bapur newydd comiwnyddol a sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Hwngari ar 20 Rhagfyr 1918. Er iddo gael ei garcharu yn Chwefror 1919 gan lywodraeth Mihály Károlyi, Arlywydd Gweriniaeth Gyntaf Hwngari, parhaodd i arwain y Blaid Gomiwnyddol a chyhoeddi propaganda chwyldroadol o'i gell. Yn ystod Rhyfel Hwngari a Rwmania, ceisiodd Kun gynhyrfu'r bobl drwy addo y byddai'n sicrhau cymorth oddi ar yr Undeb Sofietaidd i fwrw lluoedd Teyrnas Rwmania allan o'r wlad.[1]
Rhyddhawyd Kun o'r carchar ar 20 Mawrth 1919 ac ar 21 Mawrth fe'i penodwyd yn gomisâr dros faterion tramor yn llywodraeth glymblaid y Comiwnyddion a'r Democratiaid Cymdeithasol. Kun oedd arweinydd Hwngari am 19 wythnos, ac yn y cyfnod hwnnw fe lwyddodd i adennill tiriogaeth oddi ar Tsiecoslofacia a Rwmania. Gorchmynnai carthiad gwleidyddol i gael gwared ag aelodau cymedrol y llywodraeth, ond collodd Kun gefnogaeth y werin am iddo wladoli ystadau'r bendefigaeth yn hytrach na'u hailddosbarthu. O ganlyniad, methodd y cyflenwad bwyd a throdd y fyddin yn erbyn y llywodraeth, a gwympodd ar 1 Awst 1919. Ffoes Kun i Fienna.[1] Bu i'w gyfnod cythryblus arwain at ddyfodiad y cenedlaetholwr ceidwadol, Miklós Horthy i ddod yn rhaglaw ar Hwngari hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Symudodd i'r Undeb Sofietaidd a gweithiodd yn un o brif swyddogion y Comintern. Treuliodd Kun y 1920au yn ymgyrchu dros chwyldroadau yn Awstria a'r Almaen. Yn ystod y Carthiad Mawr cafodd ei gyhuddo o "Drotscïaeth" a'i ddienyddio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Béla Kun. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2020.