B. T. Hopkins
ffermwr a bardd (1897-1981)
Bardd Cymraeg oedd Benjamin Thomas Hopkins, yn ysgrifennu fel B.T. Hopkins (3 Rhagfyr 1897 – 21 Ionawr 1981).[1] Bu'n feirniad amlwg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[2]
B. T. Hopkins | |
---|---|
Ffugenw | B. T. Hopkins |
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1897 Lledrod |
Bu farw | 21 Ionawr 1981 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, ffermwr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Ganed ef yn ardal Lledrod, Ceredigion yn 1897. Bu farw ei fam yn fuan ar ôl ei eni, a magwyd ef gan ei fodryb gerllaw Blaenafon. Priododd yn 1937, a bu’n ffermio Brynwichell ym mhlwyf Blaenpennal, ger y Mynydd Bach hyd nes iddo ymddeol yn 1964. Roedd yn rhan o gylch llenyddol Jenkin Morgan Edwards ac Edward Prosser Rhys.[2]
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gywydd Rhos Helyg, sy'n moli bywyd amaethyddol a diwylliant Cymraeg ei fro.[2] Ceir cofeb iddo a beirdd lleol eraill ar lan Llyn Eiddwen, ger y Mynydd Bach.
Llyfryddiaeth
golygu- Rhos Helyg a cherddi eraill (1977)
Gweler hefyd:
- Bro a Bywyd Beirdd y Mynydd Bach (Cyhoeddiadau Barddas, 1999)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bardd, Blaenor a Bonheddwr", Goleuad, 11 Mawrth 1981 Archifwyd 2015-05-29 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 15 Tachwedd 2013
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru