Diwylliant Cymraeg


Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg yw diwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ac yn rhan hefyd o hanes Y Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sydd yn cynnwys ymfudwyr o Gymru a'u disgynyddion sy'n Gymraeg eu hiaith. Mae ganddo rai nodweddion sy'n gyffredin i ddiwylliant y gwledydd Celtaidd eraill hefyd.

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Hanes y diwylliant Cymraeg yng Nghymru golygu

O enedigaeth y genedl Gymreig yn Oesoedd Canol Cynnar hyd at y cyfnod modern cynnar, y Gymraeg oedd iaith y werin a'u diwylliant traddodiadol yng Nghymru, ac eithrio ambell cymuned ranbarthol, er enghraifft Ffleminiaid de Penfro, y dosbarthiadau llywodraethol megis y Normaniaid a'r bendefigaeth Eingl-Gymreig, a'r dysgedigion a gyfathrebant drwy gyfrwng y Lladin. Er gwaethaf gorchfygiad milwrol, gwleidyddol a chyfreithiol y Cymry gan y Saeson ers sawl canrif, goroesodd y diwylliant brodorol heb i'r Cymry colli eu hunaniaeth. Y Gymraeg oedd prif iaith y wlad nes y 19g, a pharhaodd draddodiadau, mytholeg, a chof gwlad ymhlith y werin. Meddai'r hanesydd Rees Davies ei fod yn bosib taw tra-arglwyddiaeth y Sais sydd i ddiolch am gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol y Cymry, ac felly'r diwylliant Cymraeg, gan iddi greu Prydeindod sydd yn gyfystyr â Seisnigrwydd, ac felly sicrhau arwahanrwydd diwylliannau'r Cymry, yr Albanwyr a'r Gwyddelod.[1] Traddodir y llwyddiant diwylliannol hwn gan drydydd pennill yr anthem genedlaethol:

"Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad."

Adeg twf yr eglwysi anghydffurfiol yn ystod y 19g, daethant yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd poblogaeth ddiwydiannol ag arian yn eu pocedi nawr yn gallu talu am adloniant. Darparwyd difyrrwch ar gyfer unigolion gan fusnesau, yn theatr, yn drefi gwyliau, ac yna'n ffilm, radio a theledu. Tanseiliwyd lle'r eglwysi Cymraeg wrth wraidd cymdeithas gan yr adloniant newydd hudolus. Ers dechrau'r 20g cyrhaeddai diwylliant Eingl-Americanaidd bob cwr o'r ddaear drwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.

Sefydlwyd rhai mudiadau cenedlaethol Cymraeg eu cyfrwng yn ystod yr 20g, sydd i raddau yn llenwi'r bwlch a adawyd wrth i weithgaredd cymdeithasol yr eglwysi ddihoeni. Mudiad yr Urdd a ffurfiwyd ym 1922 yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae Merched y Wawr a'r Ffermwyr Ifainc hefyd yn fudiadau o bwys yn cynnal gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer o fudiadau cenedlaethol eraill Cymraeg megis Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd, a'r Gymdeithas Wyddonol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751 gan Forrisiaid Môn yn gymdeithas lenyddol i amddiffyn y Gymraeg.

Er i ddiwylliant y bobl oroesi, cafodd ei Seisnigo yn raddol ac yna'n sylweddol yn sgil cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Saesneg yn y 19g a'r 20g. Daeth hyn o ganlyniad i gyfnod hir o imperialaeth ddiwylliannol ar y cyd â darostyngiad gwleidyddol, ac ymddangosai'r profiad Cymreig yn rhywbeth o fodel i goloneiddwyr a llywodraethwyr yr Ymerodraeth Brydeinig. Er bod Cymry'r 21g yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth yn y Gymru ddatganoledig, gwelir rhagor o Seisnigo drwy fewnfudo a dirywiad y Gymraeg yn ffurfiau ar neo-wladychiaeth. Bu mewnfudiad anferth o bobl ddi-Gymraeg, y mwyafrif ohonynt yn Saeson, i ardaloedd Cymraeg yn yr 20g, ac o ganlyniad câi'r diwylliant cynhenid ei ymyleiddio ar y cyd â'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar draul y bobl leol. Siaredir yr iaith Gymraeg yn rhugl gan ryw 15% o boblogaeth Cymru yn ôl cyfrifiad 2011, a'r Saesneg yw iaith y mwyafrif helaeth o Gymry di-Gymraeg. Mae nifer o Gymry, Cymraeg a Saesneg eu hiaith fel ei gilydd, yn pryderu am ragor o Seisnigo ac Americaneiddio yng Nghymru ac effeithiau globaleiddio ar ddiwylliant cynhenid y wlad.

Fodd bynnag, mae diwylliant Cymraeg yn parhau'n fyw fel iaith yr aelwyd, y capel a'r eglwys, y gymuned a'r gweithle ar draws y Fro Gymraeg ac ymhlith cymunedau Cymraeg yn ardaloedd Saesneg Cymru drwy addysg Gymraeg a mentrau iaith lleol. Mae siaradwyr Cymraeg, a dysgwyr, o bob cwr y wlad yn ymgasglu mewn eisteddfodau, gwyliau Cymraeg a digwyddiadau tebyg megis Tafwyl. Plant y Cymry Cymraeg sydd yn hawlio’r mudiad ieuenctid mwyaf ei faint yn Ewrop, Urdd Gobaith Cymru, a sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei nod yw rhoi cyfle i’r ifanc i fyw bywyd Cymraeg a Chymreig. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd bob Gŵyl y Gwanwyn, a gwersylloedd haf yn Llangrannog a Glan-llyn.

Y Cymry ar wasgar golygu

Y Wladfa golygu

 
Seremoni cadeirio Morris ap Hughes, bardd buddugol Eisteddfod y Wladfa (1942).

Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yn y Wladfa, ym Mhatagonia, yr Ariannin. Siaradir Cymraeg ym Mhatagonia ers 1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymru yno i fyw, gan chwilio am fywyd gwell. O’r 153 sefydlwyr cyntaf ym Mhatagonia, credwyd fod agos i 50,000 o bobl yn y Famwlad â threftadaeth Gymreig heddiw, a 5,000 ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.[2]

Yr eisteddfod golygu

Prif: Eisteddfod
 
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.

Mae gan eisteddfodau le canolog yn niwylliant y Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Deddfau Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1860au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn 1931 Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod ym 1937 ond parhau gwnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod ym 1952 pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg yn caniatáu defnyddio'r Gymraeg yn unig ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw mewn rhai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol am safon anwastad y llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall clodforir yr Eisteddfod am ei bod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan cenedlaethol i artistiaid, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.

Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd, Mudiad y Ffermwyr Ifainc, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell i eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith. Cynhelir eisteddfodau yn hanesyddol gan gymuendau'r Cymry ar wasgar yng Ngogledd America, Awstralia, a gwledydd eraill, ac wrth gwrs yn y Wladfa. Mae rhai eisteddfodau tramor yn parhau hyd heddiw, er bod nifer ohonynt wedi colli'r elfen Gymraeg.

Cerddoriaeth golygu

Madge Breese yn canu anthem genedlaethol Cymru, "Hen Wlad fy Nhadau". Dyma'r recordiad hynaf yn yr iaith Gymraeg.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llenyddiaeth golygu

 
Englyn gan R. Williams Parry yn Neuadd Goffa Mynytho.

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r chweched ganrif hyd heddiw.

Ffilm golygu

Mae ffilm Gymraeg yn mynd yn ôl i Y Chwarelwr yn 1935,[3] ffilm ddu a gwyn, gyda thrac sain Cymraeg ar riliau ar wahân, yn dangos agweddau bywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog, yn cynnwys ei fywyd cartref, gwaith a'r capel. Cafodd ei chynhyrchu gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan John Ellis Williams. Cafodd y ffilm ei dangos mewn nifer o sinemâu cludadwy ar hyd a lled Cymru rhwng 1935 ac 1940, ac roedd hi'n llwyddiannus iawn yn y Gogledd. Dywedwyd mewn llythyr yn Y Cymro ym Mawrth 1936:

Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg. Pan sylweddolir fod y 'talkie' Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol.[4]

Un o'r ffilmiau Cymraeg enwocaf yw Hedd Wyn (1992) gan Paul Turner. Cafodd ei henwebu am Oscar yn y categori ffilm iaith dramor orau yn 1994. Derbyniodd Hedd Wyn llawer o gymeradwyaeth nid yn unig yng Nghymru gan ei fod yn hybu'r Gymraeg, ond ar draws y byd am ei thechnegau ffilm a'i themâu dwfn.[5] Yr unig ffilm Gymraeg arall i gael ei henwebu am Oscar yw Solomon & Gaenor (1999), hanes Iddew ifanc (Ioan Gruffudd) yn ystod terfysgoedd gwrth-Semitaidd yng Nghymru yn 1911.

Y cyfryngau Cymraeg golygu

Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agwedd ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.[6] Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus. Mae'r wasg Gymraeg a darlledu yn Gymraeg ar y radio wedi hen sefydlu yng Nghymru, a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd wedi tyfu yn y 2000au. Mae teledu Cymraeg yn cael ei ddominyddu gan S4C, yr unig sianel Gymraeg.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Rees Davies, "Wales: A Culture Preserved", BBC. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2018.
  2. "Patagonia 150 years on: A 'little Wales beyond Wales'". BBC News (yn Saesneg). 2015-05-30. Cyrchwyd 2021-03-09.
  3. "Casglu'r Tlysau – 'Y Chwarelwr' (1935)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-08. Cyrchwyd 2018-11-05.
  4. BBC — Cymru Ar Yr Awyr – Y ffilm Gymraeg gyntaf
  5. MediaEd Archifwyd 2007-09-11 yn y Peiriant Wayback. – cymorth astudio'r ffilm Hedd Wyn
  6. Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)