Jason Mohammad
Cyflwynydd a darlledwr radio a theledu Cymreig yw Jason Mohammad (ganwyd 17 Medi 1973)[1][2]
Jason Mohammad | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Tachwedd 1975 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, television journalist ![]() |
Cyflogwr |
BywgraffiadGolygu
Ganwyd a magwyd Mohammad yng Nghaerdydd yn fab i dad Pacistanaidd, Afzal Mohammad, a mam Gymreig,[3][4] ac aeth i Ysgol Uwchradd Glyn Derw.[5] Fe astudiodd Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe,[6] yna bu'n gwneud diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.[7]
GyrfaGolygu
TeleduGolygu
Ymunodd Mohammad a'r BBC yn 1997 fel gohebydd ar BBC Wales Today cyn dod yn brif gyflwynydd Wales on Saturday. Yn 2013, daeth yn gyflwynydd Final Score ar BBC One. Mae hefyd yn cyflwyno Scrum v ar BBC 2 Wales ac mae'n un o gyflwynwyr rhaglenni snwcer ar y BBC. Mae'n un o gyflwynwyr Crimewatch ar BBC One.
Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni dogfen am y dwyrain canol.[8][9] Mae'n un o gyflwynwyr DNA Cymru.
RadioGolygu
Mae Mohammad yn cyflwyno sioe fore wythnosol ar BBC Radio Wales.
Bywyd personolGolygu
Mae'n briod a Nicola mae ganddynt tri o blant, Lili, Max a Poppy.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ @jasonmohammad (17 September 2015). "Thanks to my amazing @BBCRadioWales team for the birthday cake and card. 21 today" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ @jasonmohammad (29 November 2013). "Happy Birthday to Ryan Giggs. I am also still playing Welsh 5-a-side pitches at the age of 40. Must be a Cardiff thing" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ walesonline Administrator (7 Tachwedd 2009). "Don't mind your P's and Q's: Broadcaster Jason Mohammad". walesonline.
- ↑ northwales Administrator (7 Tachwedd 2009). "Jason Mohammad finds peace on religious journey". northwales.
- ↑ "BBC NEWS - UK - Wales - News Academy for young reporters". bbc.co.uk.
- ↑ Notable alumni[dead link]
- ↑ "The TV Room +". thetvroomplus.com.
- ↑ Jerwsalem: Tir Sanctaidd; Adalwyd 2015-11-29
- ↑ Y Gohebwyr: Jason Mohammed; Adalwyd 2015-11-19